Rydym yn cynnig parth parcio newydd a hoffem glywed eich barn.
Mae parthau parcio yn helpu i:
- Flaenoriaethu lleoedd parcio i breswylwyr a'u hymwelwyr.
- Cefnogi busnesau drwy sicrhau bod trosiant o gerbydau.
- Ei gwneud hi'n haws i siopwyr ac ymwelwyr ddod o hyd i le parcio cyfleus.
- Stopio parcio gan gymudwyr a pharcio anystyriol.
Rhagor o wybodaeth am barthau parcio.
Pam rydyn ni'n cynnig y newidiadau
Rydyn ni'n ymwybodol bod pobl yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i le parcio addas oherwydd galw mawr yn yr ardaloedd hyn. Mae parthau parcio wedi helpu i leihau'r problemau hyn mewn rhannau eraill o'r ddinas
Darganfyddwch sut rydym yn dylunio parthau parcio.
Pryd fyddai'r parth yn weithredol
Rydyn ni'n cynnig y byddai'r cyfyngiadau yn berthnasol rhwng:
- 8am tan 6.30pm
- 8am tan 8pm, neu
- 8am tan 10pm.
Ac y byddan nhw'n weithredol:
- O ddydd Llun i ddydd Sadwrn, neu
- Dydd Llun i Ddydd Sul.
Byddai cyfyngiadau yn berthnasol trwy'r dydd, bob dydd i:
- barcio â thrwydded,
- mannau aros cyfyngedig,
- mannau talu ac aros, a
- llinellau melyn sengl.
Byddai llinellau melyn dwbl a mannau i ddeiliaid bathodyn glas hefyd yn berthnasol trwy'r dydd, bob dydd.
Strydoedd yn y parth
- Berthwin Street
- Heol y Gadeirlan (rhwng y gyffordd â Pontcanna Street a Heol Ddwyreiniol y Bont-faen)
- Dogo Street
- Dyfrig Street
- Hamilton Street
- Heol y Brenin
- Kyveilog Street
- Iestyn Street
- Plasturton Avenue
- Gerddi Plasturton
- Plasturton Place
- Pitman Street
- Pontcanna Street
- Ryder Street
- Sophia Walk
- Sneyd Street
- Talbot Street
- Teilo Street
- Unrhyw ffyrdd neu lonydd sy'n hygyrch o'r strydoedd hyn.
Gweld y parth parcio arfaethedig (PDF, 201 KB).
Mathau o Drwyddedau
Byddwn yn cyflwyno trwyddedau i:
- Breswylwyr
- Busnesau
- Adeiladau cymunedol.
Gallwch wneud cais am uchafswm o 2 drwydded ar gyfer pob eiddo.
Bydd preswylwyr hefyd yn gallu gwneud cais am drwyddedau ar gyfer ymwelwyr.
Byddai gofalwyr, contractwyr ac athrawon yn gallu gwneud cais am drwyddedau wrth weithio yn y parth.
Rhagor o wybodaeth am y mathau o drwyddedau rydyn ni'n eu cyflwyno.
Ni fyddwn yn cyflwyno trwyddedau ar gyfer:
- busnesau sydd â pharcio oddi ar y stryd
- parcio gan gymudwyr neu staff
- neuaddau preswyl i fyfyrwyr
- llety dros dro (fel eiddo gosod tymor byr neu osodiadau gwyliau)
- eiddo ar ffyrdd preifat
- datblygiadau gyda meysydd parcio oddi ar y stryd (hyd yn oed os nad oes digon o le i barcio ar gyfer yr holl eiddo yn y datblygiad)
- cerbydau trwm (dros 3.5 tunnell)
Parcio â thrwydded
Byddai gyrwyr sydd â thrwyddedau yn gallu parcio mewn:
- mannau i ddeiliaid trwydded yn unig
- mannau aros cyfyngedig defnydd a rennir, mor hir ag sydd ei angen
- mannau talu ac aros defnydd a rennir, heb fod angen tocyn ac mor hir ag sydd angen.
Byddai deiliaid trwydded yn gallu parcio mewn unrhyw fan parcio â thrwydded cymwys yn yr ardal.
Gweld y newidiadau parcio arfaethedig (PDF, 202 KB).
Parcio heb drwydded
Byddai gyrwyr heb drwyddedau yn gallu parcio am hyd at 4 awr gyda thocyn mewn mannau talu ac aros.
Byddai'r mannau hyn ar gael ar draws y parth i ymwelwyr a siopwyr eu defnyddio.
Byddai cymudwyr yn cael eu hannog i ddod o hyd i opsiynau teithio amgen.
Cost
Byddai parcio talu ac aros ar y stryd yn costio £2 yr awr. B yddai parcio mewn mannau talu ac aros am ddim am y 30 munud cyntaf . Bydd angen i chi gael tocyn o hyd.
Byddai costau trwydded yr un peth â'r rhai sydd eisoes ar waith ledled y ddinas. Darganfyddwch ragor am drwyddedau.
Mae costau trwydded busnes yn dibynnu ar allyriadau eich cerbyd. Dysgwch fwy am drwyddedau busnes.
Byddai trefniadau parcio i ddeiliaid bathodyn glas yn aros yr un peth. Dysgwch fwy am barcio i ddeiliaid bathodyn glas.
Dweud eich dweud
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 31 Awst 2025.
