Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Trwyddedau busnes

Rydym yn cyhoeddi trwyddedau busnes ar gyfer lleoliadau ar y stryd ac oddi ar y stryd.

Dim ond ar gyfer gweithredu eich busnes y gellir defnyddio'r rhain. Er enghraifft, ar gyfer:

  • dosbarthu nwyddau, neu
  • ddarparu gwasanaeth

Nid yw trwyddedau busnes ar gyfer teithio i'r gweithle neu ohono, nac ar gyfer darparu lle parcio i staff.

Ni fyddwch yn gymwys os oes gan eich busnes ei leoedd parcio oddi ar y stryd ei hun ar gael.

Mae trwyddedau busnes yn ddigidol, felly nid oes angen i chi arddangos unrhyw beth yn eich cerbyd.

Mathau o drwyddedau busnes

Mae yna 2 fath o drwyddedau busnes.
 

Trwyddedau cerbyd penodol

Mae'r trwyddedau hyn yn rhai cerbyd penodol am gyfnod y drwydded.

Rhaid i'r cerbyd fod wedi'i gofrestru i'r busnes neu wedi'i yswirio at ddefnydd masnachol neu fusnes.
 

Trwyddedau trosglwyddadwy

Mae'r trwyddedau hyn yn hyblyg a gellir eu defnyddio ar gyfer gwahanol gerbydau.

Bydd angen i chi newid manylion y cerbyd ar MiPermit yn ôl yr angen.

Trwyddedau maes parcio

Efallai y bydd eich busnes yn gymwys i gael trwyddedau mewn rhai meysydd parcio. Dim ond busnesau yn y strydoedd cyfagos sy'n gymwys.

Dim ond yn y mannau pwrpasol ar gyfer trwyddedau busnes yn y maes parcio y gellir defnyddio'r trwyddedau.

Dyma'r meysydd parcio sy'n rhan o'r cynllun:

  • Gray Street, CF11 9NE
  • Harvey Street, CF5 1QW
  • Severn Road, CF11 3DU
  • Stryd Wellington, CF11 9BL

Gall busnesau cymwys wneud cais am hyd at 3 thrwydded. Gall hyn fod yn unrhyw gyfuniad o drwyddedau cerbyd penodol a thrwyddedau trosglwyddadwy.

Costau trwyddedau maes parcio

Gweler y costau ar gyfer trwyddedau maes parcio cerbyd penodol a throsglwyddadwy.

Meysydd parcio: costau trwyddedau ar gyfer cerbydau penodol
Hyd y drwyddedCost
12 mis£100
6 mis£50

 

Meysydd parcio: costau trwyddedau trosglwyddadwy
Hyd y drwyddedCost
12 mis£150
6 mis£75

 

Mae trwyddedau trosglwyddadwy yn hyblyg a gellir eu defnyddio ar gyfer gwahanol gerbydau.

Bydd angen i chi newid manylion y cerbyd ar MiPermit yn ôl yr angen.

 

Trwyddedau ar y stryd

Efallai y bydd eich busnes yn gymwys i gael trwyddedau parcio ar y stryd.

Mae'r trwyddedau ar gael mewn rhai parthau parcio o amgylch y ddinas yn unig. Mae lleoliadau parcio yn dibynnu ar ba barth y mae eich busnes ynddo.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael trwydded ar y stryd os yw'ch busnes yn un o'r parthau rheoli parcio canlynol:

  • C1 Dwyrain Cathays,
  • C2 Cathays Canolog,
  • C3 Gorllewin Cathays,
  • C4 Gogledd Gabalfa,
  • C5 Heol y Dderwen Deg, neu
  • C6 Gogledd Cathays.

Bydd eich trwydded yn eich galluogi i barcio yn unrhyw un o'r canlynol:

  • mannau i ddeiliaid trwydded yn unig,
  • mannau aros cyfyngedig defnydd a rennir, a
  • mannau talu ac aros a rennir.

Nid oes modd i chi barcio yn unrhyw un o'r canlynol mannau i breswylwyr yn unig, neu fannau i ddoctoriaid.

Parcio ar y stryd: costau trwyddedau ar gyfer cerbydau penodol

Gweler costau trwyddedau parcio ar y stryd ar gyfer cerbydau penodol.

Os oes gennych gerbyd disel, codir tâl ychwanegol at gost y drwydded. Y tâl disel yw £20 am 12 mis, neu £10 am 6 mis.

Bydd cost y drwydded yn dibynnu ar y canlynol:

  • maint yr injan os cafodd eich cerbyd ei gofrestru cyn 1 Mawrth 2001
  • allyriadau os cafodd eich cerbyd ei gofrestru ar ôl 1 Mawrth 2001

Cerbydau a gofrestrwyd cyn 1 Mawrth 2001:

Cost y drwydded gyntaf ar gyfer cerbyd penodol
Maint yr injan12 mis6 mis
Hyd at 1550cc£80£40
1551 i 2950cc£100£50
2951cc a throsodd£120£60
Dim gwybodaeth am y cerbyd gan y DVLA£140£70

 

Cost yr ail drwydded ar gyfer cerbyd penodol
Maint yr injan12 mis6 mis
Hyd at 1550cc£180£90
1551 i 2950cc£200£100
2951cc a throsodd£220£110
Dim gwybodaeth am y cerbyd gan y DVLA£240£120

Cerbydau a gofrestrwyd ar ôl 1 Mawrth 2001:

Cost y drwydded gyntaf ar gyfer cerbyd penodol
Allyriadau Co212 mis6 mis
Hyd at 100g/km£80£40
101 i 170g/km£100£50
171g/km a throsodd£120£60
Dim gwybodaeth am y cerbyd gan y DVLA£140£70

 

Cost yr ail drwydded ar gyfer cerbyd penodol
Allyriadau Co212 mis6 mis
Hyd at 100g/km£180£90
101 i 170g/km£200£100
171g/km a throsodd£220£110
Dim gwybodaeth am y cerbyd gan y DVLA£240£120

 

Parcio ar y stryd: costau trwyddedau trosglwyddadwy

Gweler costau trwyddedau parcio ar y stryd trosglwyddadwy:

  • Bydd y drwydded drosglwyddadwy gyntaf yn costio £200.
  • Bydd yr ail drwydded drosglwyddadwy yn costio £300.

Mae trwyddedau trosglwyddadwy yn hyblyg a gellir eu defnyddio ar gyfer gwahanol gerbydau.

Bydd angen i chi newid manylion y cerbyd ar MiPermit yn ôl yr angen.

 

Gwneud cais am eich trwydded

Gallwch wneud cais am eich trwydded drwy MiPermit.

Gallwch brynu trwyddedau am 6 neu 12 mis.

Bydd angen eich cyfeirnod ardrethi busnes a'ch cerdyn debyd neu gredyd yn barod.

Wrth brynu trwydded cerbyd penodol, bydd angen y canlynol arnoch hefyd:

  • llyfr log sy'n dangos bod y cerbyd wedi'i gofrestru i'ch busnes, neu
  • dystysgrif yswiriant sy'n dangos bod y cerbyd wedi'i yswirio at ddefnydd busnes neu fasnachol.

Sicrhewch eich bod yn darllen y telerau ac amodau yn ofalus. Os na fyddwch yn defnyddio eich trwydded yn gywir, byddwch yn derbyn Hysbysiad Tâl Cosb.