Mae'r cynllun parcio newydd yn cyflwyno system symlach a thecach sydd:
- yn helpu preswylwyr i barcio'n agosach at eu cartrefi.
- yn lleihau traffig ac
- yn cefnogi aer glanach.
Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo'r cynllun parcio newydd, fodd bynnag, bydd angen i ni ymgynghori â'r cyhoedd yn fwy ar wahanol rannau o'r cynllun. Gellid gwneud newidiadau i'r cynllun yn seiliedig ar yr adborth a gawn yn ystod yr ymgynghoriadau.
Gallwch weld penderfyniad y Cabinet (rhif 4 ar yr agenda).
Pam mae angen i ni newid y cynllun parcio
Nid yw strategaeth parcio 2016 bellach yn bodloni anghenion ein dinas sy'n tyfu. Mae parcio am ddim i gymudwyr mewn ardaloedd preswyl wedi ei gwneud hi'n anodd i bobl leol a busnesau ddod o hyd i le.
Mae'r cynllun newydd yn rhoi trigolion yn gyntaf ac yn helpu i reoli'r galw'n decach.
Prif bwyntiau'r cynllun newydd
Mae 6 phrif bwynt y cynllun newydd.
3 ardal rheoli parcio
Rhennir Caerdydd yn 3 ardal rheoli parcio:
- Canol y ddinas a'r ganolfan ddinesig
- Ardal fewnol
- Ardal allanol
Bydd gan bob ardal gyfyngiadau parcio wedi'u teilwra sy'n bodloni anghenion lleol. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i breswylwyr barcio ger eu cartrefi.
Cyflwyno parthau rheoli parcio (PRhPau)
Bydd parcio ar y stryd yn cael ei reoli trwy barthau rheoli parcio. Bydd yr oriau gweithredu a'r rheolau yn cael eu cynllunio i flaenoriaethu:
- preswylwyr,
- deiliaid bathodyn glas,
- gwasanaethau hanfodol, a
- busnesau lleol.
Newidiadau i drwyddedau
Bydd trwyddedau ar gael ar gyfer:
- preswylwyr,
- myfyrwyr,
- busnesau,
- gofalwyr, a
- safleoedd cymunedol.
Os yw'ch cerbyd dros 2.4 tunnell, bydd eich trwydded parcio ar y stryd i breswylwyr yn costio mwy. Ni fydd cerbydau dros 3.5 tunnell yn gymwys i gael trwyddedau.
Er nad yw trwyddedau'n gwarantu lle y tu allan i'ch eiddo, bydd y cynllun yn gwella faint o barcio sydd ar gael i breswylwyr a busnesau lleol ac yn lleihau parcio gan gymudwyr.
Newidiadau parcio ymwelwyr
Bydd preswylwyr yn gallu cael trwyddedau ymwelwyr dyddiol. Bydd trwyddedau fesul awr yn dal i fod ar gael er hyblygrwydd.
I atal camddefnydd, bydd terfyn ar faint o drwyddedau ymwelwyr y gellir eu defnyddio.
Mae'r lwfans trwydded ymwelwyr hefyd yn cael ei leihau ar gyfer eiddo myfyrwyr.
Cymorth i grwpiau sy'n agored i niwed
Mae'r cynllun yn blaenoriaethu deiliaid bathodyn glas. Bydd trwyddedau newydd hefyd ar gyfer gofalwyr proffesiynol a di-dâl i wneud yn siŵr bod y rhai sydd angen parcio fwyaf yn cael eu cefnogi.
Dull hyblyg, dan arweiniad y gymuned
Bydd cyfyngiadau parcio yn yr ardal allanol yn cael eu gosod trwy ymgynghori â chymunedau lleol. Mae hyn yn gwneud yn siŵr y byddant yn bodloni anghenion lleol.
Trwyddedau fydd ar gael yn y cynllun newydd
- Trwyddedau preswylwyr ac ymwelwyr
- Trwyddedau cymunedolAr gyfer safleoedd cymunedol, megis mannau addoli, neuaddau cymunedol a gorsafoedd gwasanaethau brys.
- Trwyddedau gofalwr a gweithwyr gofalAr gyfer preswylwyr anabl sydd angen ymweliadau dyddiol gan ofalwyr.
- Trwyddedau addysgolAr gyfer staff addysgu mewn ysgolion a gynhelir.
- Trwyddedau defnyddwyr hanfodol Ar gyfer sefydliadau gofal cartref, ac adrannau cyngor a GIG sy'n darparu gofal yn y gymuned.
- Trwyddedau cerbydau anableddAr gyfer pobl sydd â cherbydau i bobl anabl sydd wedi'u heithrio rhag treth.
Nid yw rhai o'r trwyddedau hyn ar gael ar hyn o bryd. Os oes gennych drwydded ddilys, nid oes angen i chi wneud cais o'r newydd ar hyn o bryd.
Bydd angen i ni gynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn iddynt ddod ar gael a gwneud unrhyw newidiadau.
Ymgynghoriad ac adborth
Fe wnaethon ni gynnal ymgynghoriad cyhoeddus o 16 Hydref i 2 Rhagfyr 2024. Cawsom dros 6,000 o ymatebion.
Gwnaethom sawl newid i'r cynllun yn seiliedig ar eich adborth, gan gynnwys:
- Lleihau'r ardaloedd rheoli parcio o 4 i 3. Bydd ardal Bae Caerdydd bellach yn cael ei chynnwys yn yr ardal allanol.
- Addasu oriau gweithredu yn yr ardal allanol.
- Cynyddu cymhwysedd ar gyfer trwyddedau gweithwyr gofal.
- Adolygu ffiniau'r ardal fewnol i gefnogi busnesau.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i weithredu'r cynllun
Byddwn yn cyflwyno'r cynllun mewn 3 cham dros 10 mlynedd:
- Tymor byr - hyd at 3 blynedd
- Tymor canolig - 3 i 6 blynedd
- Tymor hir - 6 i 10 mlynedd
Bydd pob ardal yn mynd trwy ymgynghoriad lleol ac yn dilyn y broses gyfreithiol Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT).
Yr ardaloedd y byddwn yn eu blaenoriaethu gyntaf
Bydd ardaloedd canol y ddinas gyda pharcio cyfyngedig yn cael eu blaenoriaethu:
- Cathays
- Plasnewydd
- Glan-yr-afon
- Adamsdown
- Grangetown
