I sicrhau ein bod yn gweithredu'n unol â'r safonau diogelwch presennol ac yn mabwysiadu technoleg fodern, rydym yn symud y wefan hon (www.caerdydd.gov.uk) i lwyfan newydd.
Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.
Newidiadau i'r wefan
Byddwch yn sylwi ar rai newidiadau i brofiad y defnyddiwr mewn mannau, ond rydyn ni wedi gwneud ein gorau glas i gael cyn lleied a phosibl o'r newidiadau hyn. Nod y prosiect hwn oedd uwchraddio technoleg, nid ailgynllunio'r wefan.
Ein prif nodau ar gyfer y wefan yw:
Gwell hygyrchedd
Byddwn yn parhau i weithio tuag at safonau hygyrchedd i sicrhau bod ein gwefan yn gynhwysol ac yn hawdd i bawb ei defnyddio.
Gwella diogelwch
Mae diogelu data ein trigolion yn flaenoriaeth fawr. Mae'r llwyfan newydd yn cynnig mesurau diogelwch cryfach yn erbyn bygythiadau seiber sy'n dod i'r amlwg.
Rydyn ni'n bwriadu sicrhau gwelliannau parhaus i'r wefan trwy wahodd cwsmeriaid i gymryd rhan mewn profion defnyddwyr a thrwy adborth cwsmeriaid dros y misoedd nesaf.
Adborth ar y wefan
Os oes gennych bryderon neu sylwadau am y wefan, rhowch wybod i ni trwy ein ffurflen adborth.
Rhoi gwybod i ni am broblem neu wneud awgrym am ein gwefan
Gofynnwn yn garedig am eich amynedd tra bo'r wefan newydd yn cael ei sefydlu ac wrth i ni adolygu ac ymateb i sylwadau.
Taliadau ar-lein ddim ar gael ddydd Mawrth 23 Mehefin
Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol nid ydym yn gallu prosesu taliadau ar-lein ar ein ap a'n gwefan ar hyn o bryd. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
