Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi ei Ddatganiad Caethwasiaeth Fodern diweddaraf yn amlinellu'r camau a gymerwyd dros y flwyddyn ddiwethaf - a'r blaenoriaethau ar gyfer 2026 i 2027 - i sicrhau nad oes lle i gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn ein gwasanaethau na'n cadwyni cyflenwi. Mae'r Datganiad hefyd yn tynnu sylw at y cyfrifoldebau rydyn ni i gyd yn eu rhannu i ddiogelu pobl agored i niwed a chefnogi arferion cyflogaeth moesegol.
Gan weithio'n uniongyrchol a thrwy bartneriaeth gaffael Ardal gyda Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg, mae'r Cyngor yn parhau i gryfhau diwydrwydd dyladwy, gwella tryloywder y gadwyn gyflenwi a hyrwyddo caffael cymdeithasol-gyfrifol ar draws mwy na £1.2bn o wariant blynyddol.
Mae ymwybyddiaeth staff wedi parhau i dyfu, gyda mwy na 6,500 o weithwyr bellach wedi cwblhau hyfforddiant diogelu a chaethwasiaeth fodern ar-lein y Cyngor. Mae sesiynau wyneb yn wyneb hefyd wedi'u datblygu ar gyfer timau heb fynediad digidol rheolaidd. Mae atgyfeiriadau i'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (MAC) wedi cynyddu eto, gan ddangos dealltwriaeth well o'r ffordd i adnabod a rhoi gwybod am bryderon.
Mae gwaith gyda chyflenwyr hefyd wedi symud ymlaen, gan gynnwys cryfhau dogfennau tendro, prosesau hunanasesu gwell, a chydymffurfio parhaus â Chod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru.
Mae Datganiad 2026 i 2027 yn nodi'r camau nesaf, gan gynnwys ehangu hyfforddiant, cynyddu'r gefnogaeth i ymrwymiadau Lles Cymunedol, cydweithio â Llywodraeth Cymru ar adnoddau a rennir, a dyfnhau gwaith ar y cyd drwy Ardal. Bydd y Cyngor hefyd yn archwilio sut y gall technolegau fel deallusrwydd artiffisial helpu i wella gwelededd a nodi risgiau o fewn cadwyni cyflenwi.
Gweler y Datganiad Caethwasiaeth Fodern 2026 i 2027 (PDF, 656 KB)
