Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk. Mae gennym hefyd ddatganiad hygyrchedd ar gyfer ein ap.
Cynhelir y wefan hon gan Gyngor Caerdydd. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnu a ffontiau,
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin,
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig,
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais,
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin.
Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan yr elusen AbilityNet gyngor ar sicrhau bod eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod ein gwefan yn unol â chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 AA ac yn y rhan fwyaf o feysydd rydym yn cydymffurfio'n llawn.
Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin,
- mae'n anodd llywio drwy rai o'n ffurflenni ar-lein gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig,
- nid yw ein system fapio ar-lein (iShare) yn gwbl hygyrch,
- nid yw ein SgyrsBot yn hollol hygyrch, a
- nid yw ein systemau trydydd parti i gyd yn gwbl hygyrch.
Systemau a rhaglenni trydydd parti
Rydym yn cysylltu â chynnwys a ddarperir gan wefannau eraill ac yn ei ddefnyddio, ac nid yw bob amser mor hygyrch. Mae hyn yn cynnwys:
- Gwneud cais am fudd-daliadau
- Porth y Dreth Gyngor
- E-daliadau
- Rhyddid Gwybodaeth a Setiau Data
- Tai ar-lein
- Map ar-lein i-share
- Safle swyddi Cyngor Caerdydd
- Modern.gov
- Netloan - archebu ar gyfrifiadur personol
- Llyfrgell ar-lein
- Apeliadau parcio
- Porth cynlluio
- System drwyddedau
- Derbyniadau i ysgolion
- Startraq (trwyddedu)
- Startraq (gorfodi)
- Gwe-ddarlledu
- Sgwrs ar-lein
Rydym wedi dechrau trafodaethau gyda'n cyflenwyr i fynd i'r afael â materion hygyrchedd ar systemau rydym wedi'u prynu ganddynt.
Adrodd problemau hygyrchedd o ran y wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os canfyddwch unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
webdev@caerdydd.gov.uk
Bydd eich e-bost yn cyrraedd tîm gwe y Cyngor a fydd yn edrych ar y materion rydych yn eu disgrifio ac yn ymateb os bydd angen.
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').
Os nad ydych yn hapus gyda'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol
Rydym yn darparu Gwasanaeth Trosglwyddo Fideo trwy Video Relay Service gan Sign Video i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â rhwystr lleferydd.
Dysgwch sut y gallwch gysylltu â Chyngor Caerdydd.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrc
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Methu â chydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
| Rhifyn hygyrchedd | Safon WCAG | Cydymffurfiaeth gyfredol (Mehefin 2026) |
|---|---|---|
| Mae rhai o'n tudalennau'n defnyddio'r un testun dolen ar gyfer cyrchfanau gwahanol. | WCAG 2.0 A 2.4.4 | 39.48% |
| Mae cwmpas ar goll o rhai o'n tablau. | WCAG 2.0 A 1.3.1 | 85.31% |
Nid yw rhai o reolaethau'r ffurflen yn cyferbynu'n ddigonol â'r hyn sydd o'u hamgylch | WCAG 2.1 AA 1.4.11 | 99.96% |
| Hygyrchedd PDF | Safon WCAG | Cydymffurfiaeth gyfredol (Mehefin 2026) |
|---|---|---|
| Nid ydym yn nodi penawdau ar bob PDF ar y wefan. | WCAG 2.0 A 1.3.1 | 60.98% |
| Rhaid i'n holl ffeiliau PDF nodi iaith ddiofyn. | WCAG 2.0 A 1.3.1 | 81.31% |
| Nid yw rhai o'n penawdau PDF yn dilyn trefn resymegol. | WCAG 2.0 A 1.3.1 | 81.50% |
| Mae angen i ni sicrhau bod gan bob un o'n PDFs deitl. | WCAG 2.0 A 2.4.2 | 85.05% |
| Mae tagiau ar goll ar rai o'n PDFs. | WCAG 2.0 A 1.3.1 | 85.51% |
| Mae nodau tudalen i gynorthwyo gwe-lywio ar goll o rhai o'n ffeiliau PDF hwy. | WCAG 2.0 AA 2.4.5 | 88.08% |
| Nid yw pob un o'n PDFs yn defnyddio H1 fel y pennawd cyntaf. | WCAG 2.0 A 1.3.1 | 89.95% |
| Mae angen i ni sicrhau bod ein holl PDFs yn gallu cael eu prosesu gan beiriannau. | WCAG 2.0 A 1.3.1 | 99.77% |
Ein nod yw gweithio trwy'r materion sy'n weddill a restrir uchod i gyflawni cydymffurfiaeth lawn lle bynnag sy'n bosibl.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF ac eraill
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sydd â gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, a ffurflenni ar ffurf Word. Rydym yn bwriadu naill ai trwsio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni unioni dogfennau PDF nac eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio:
- Adroddiadau Cabinet
- Cofrestrau cynllunio
- Cofrestrau trwyddedu
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Rydym yn nodi lle y dylai gwybodaeth a gedwir ar PDF fod ar dudalen ar y wefan.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Medi 2020.
Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 19 Mehefin 2026.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 19 Mehefin 2026. Cynhaliwyd y prawf gan Silktide.
Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 19 Mehefin 2026.
Sut gwnaethom brofi hygyrchedd ein gwefan
Rydym yn defnyddio'r gwiriwr hygyrchedd Silktide i brofi ein holl dudalennau gwe ar y parth www.caerdydd.gov.uk.
Gallwch weld adroddiad prawf hygyrchedd llawn Cyngor Caerdydd ar wefan Mynegai Silktide.
Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd
Ein nod yw adnabod a thrwsio materion yn yr amserlenni a nodir uchod.
Byddwn yn parhau i siarad â darparwyr trydydd parti i weld pa welliannau y gellir eu gwneud i'w systemau.
