Mae ein polisi caffael cyfrifoldeb cymdeithasol yn nodi nifer o ymrwymiadau a gynlluniwyd i gefnogi'r buddion llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol a gyflwynir i gymunedau trwy gaffael.
Mae ein tîm Buddion Llesiant Cymunedol (BLlC) ymroddedig wrth law i gefnogi cyflenwyr i ddarparu BLlC yn yr ardal leol.
Mae'r astudiaethau achos ar wefan Ardal yn dangos mentrau yr ydym yn eu cefnogi i gyflawni'r meysydd allweddol hyn ac i ddarparu gwerth ychwanegol i'r ddinas a'r ddinas-ranbarth.
Dysgwch fwy am Fuddion Llesiant Cymunedol ar wefan Ardal .
