Rydym yn cynnig gwasanaethau parcio a theithio ar gyfer Ysbyty'r Mynydd Bychan a digwyddiadau mawr yn y ddinas.
Darllenwch fwy am wasanaethau parcio a theithio sy'n cael eu rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru.
Parcio a theithio i'r ysbyty
Mae Bwrdd GIG Caerdydd a'r Fro yn darparu gwasanaeth parcio a theithio am ddim o Ddwyrain Caerdydd i Ysbyty Athrofaol Cymru, Y Mynydd Bychan.
Mae'r gwasanaeth ar gyfer staff, cleifion ac ymwelwyr sy'n mynd i'r ysbyty.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran uchder cerbydau ar y safle.
Mae gan y safle system teledu cylch cyfyng ond mae cerbydau'n cael eu parcio ar gyfrifoldeb y perchnogion.
Sut i gyrraedd yno
I ddod o hyd i'r maes parcio, defnyddiwch y cod post CF23 8HH.
O'r Dwyrain:
- Gadewch yr M4 wrth gyffordd 29.
- Cymerwch yr ail allanfa ar y gylchfan.
- Dilynwch yr arwyddion i'r maes parcio.
O'r Gorllewin:
- Gadewch yr M4 wrth gyffordd 30.
- Cymerwch y drydedd allanfa ar y gylchfan gyntaf.
- Cymerwch yr ail allanfa ar yr ail gylchfan.
- Cymerwch yr ail allanfa ar y drydedd gylchfan, i'r A48 sy'n mynd tuag at ganol y ddinas.
- Cymerwch yr allanfa gyntaf ar yr A48 a dilynwch yr arwyddion i'r maes parcio.
Oriau agor
Dydd Llun i ddydd Gwener, 6:25am i 9pm.
Mae'r maes parcio yn cau yn fuan ar ôl i'r bws olaf gyrraedd.
Ni chaniateir gadael eich car dros nos ar y safle.
Parcio a theithio digwyddiadau
Rydym yn trefnu gwasanaethau parcio a theithio ar gyfer digwyddiadau mawr yn Stadiwm Principality.
Darllenwch ein cyngor am ddim ar gyfer digwyddiadau mawr.
