Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Goleuadau LED interact city

Mae Caerdydd wedi cyflwyno system oleuadau LED Interact Lighting i'n helpu i ddod yn ddinas fwy gwyrdd a chlyfar. Drwy ddefnyddio'r system hon, bydd y ddinas yn elwa ar arbedion blynyddol o 50% mewn ynni.

Caiff dros 14,000 o oleuadau stryd eu rheoli gan system ganolog rheoli goleuadau Interact City. 

Golyga hyn fod gennym ddulliau monitro ac ymateb parhaus ar waith ar draws y ddinas a gallwn ymateb yn well i anghenion y dinasyddion.

Mae hyn yn ein galluogi i addasu goleuadau'r ddinas ar gyfer amser y nos, adeg y flwyddyn neu gyd-destun arall.

Er enghraifft:

  • Mwy o olau os oes damwain traffig neu drosedd. 
  • Gostwng disgleirdeb i 30% pan nad oes unrhyw un gerllaw. 
  • Defnyddio synwyryddion ar y postyn golau i ganfod gweithgarwch i'ch cadw'n ddiogel ar bob adeg.
  • Golau mwy llachar yn ystod y cyfnodau mwyaf prysur y tu allan i ysgolion ac ysbytai er mwyn cynyddu diogelwch a gwelededd.

Beth yw manteision goleuadau LED?

  • Gostwng ôl troed carbon drwy ddefnyddio dros 14,000 o oleuadau stryd LED wedi'u cysylltu.
  • Gostwng faint o drydan a ddefnyddir gan 60%, ac arbed dros £750,000 y flwyddyn.
  • Mwy o ddiogelwch a chysur i'r cyhoedd.

I gael mwy o wybodaeth am gwmni Interact City a'r gwaith mae'n ei wneud yng Nghaerdydd, ewch i'r wefan.