Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Adfywio cymdogaethau

Adfywio cymdogaethau yw'r broses o ddiweddaru ardaloedd fel eu bod yn diwallu anghenion presennol. Gall hyn gynnwys newidiadau i:

  • tai,   
  • strydoedd,  
  • mannau cyhoeddus, a  
  • gwasanaethau lleol.  

Rydym yn gweithio gyda phreswylwyr a phartneriaid i: 

  • deall problemau,  
  • cynllunio gwelliannau, a  
  • rheoli tarfu.  

Ein nod yw sicrhau bod ein cymdogaethau'n parhau i fod yn ddiogel ac yn gallu cefnogi'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ynddynt.

Cynlluniau adnewyddu cymdogaeth

​Mae'r rhaglen cynlluniau adnewyddu cymdogaethau yn seiliedig ar flaenoriaethau adfywio a nodwyd gan gynghorwyr ward, fel cynrychiolwyr cymunedau lleol.

Mae'r rhaglen yn cyflawni projectau adfywio ledled y ddinas, yn amrywio o barciau newydd a gwelliannau i strydoedd i welliannau diogelwch cymunedol.

Gallwch ddod o hyd i brojectau wedi'u cwblhau ar y wefan Datblygu ac Adfywio Caerdydd​​​​​​​​​​.

Adfywio Cymdogaethau

Mae'r rhaglen adfywio ystadau'n canolbwyntio ar gyflawni cynlluniau sy'n gwella amgylchedd ystadau tai ledled y ddinas. 

Y nod yw i:  

  • greu cymunedau mwy diogel a deniadol, 
  • gwella safon bywyd i breswylwyr, ahyrwyddo balchder yn y gymuned a pharchu'r amgylchedd.  

Gallwch ddod o hyd i rhagor o'n brojectau​​​​​​​ ar y wefan Datblygu ac Adfywio Caerdydd.​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​

Gweler hefyd