Mae trwyddedau meddygon yn helpu meddygon i barcio'n agos at eu meddygfa.
Gallwch wneud cais am drwydded yn yr amgylchiadau canlynol:
- mae bae meddygon dynodedig y tu allan i'ch meddygfa, ac
- mae gan y cerbyd yswiriant ar gyfer defnydd busnes.
Mae'r drwydded yn ddigidol ac wedi'i chysylltu â rhif cofrestru eich cerbyd.
Rydych chi'n gallu parcio yn y bae trwydded feddyg yn y stryd a enwir ar y drwydded.
Cost
Bydd cost y drwydded yn dibynnu ar allyriadau eich cerbyd.
| Allyriadau Co2 | Cost am drwydded 12 mis |
|---|---|
| Hyd at 100gkm | £20 |
| 101 i 170gkm | £30 |
| 171gkm a mwy | £40 |
| Maint yr injan | Cost am drwydded 12 mis |
|---|---|
| Hyd at 1550cc | £20 |
| 1550 i 2950cc | £30 |
| 2951cc a mwy | £40 |
Os nad yw'r DVLA yn cadw'r wybodaeth am y cerbyd, bydd eich trwydded yn costio £60.
Gwneud cais am y drwydded
Bydd rhaid i chi greu cyfrif ar MiPermit i wneud cais am drwydded.
Bydd angen i chi ddarparu cyfeirnod cofrestru eich cerbyd a chyfeirnod eich meddygfa wrth wneud cais.
Os caiff eich cais ei gymeradwyo, bydd y drwydded yn ymddangos yn weithredol yn eich cyfrif MiPermit.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth neu os oes angen help arnoch i wneud cais, ffoniwch MiPermit.
Ffôn: 0333 123 6006
