Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Trwyddedau gofalwyr proffesiynol

Gallwch wneud cais am drwydded gofalwyr proffesiynol os ydych:

  • yn ofalwr a gyflogwyd yn y sector gofal, a
  • bod angen trwydded arnoch i barcio oherwydd gofynion gofalu am drigolion sy'n byw mewn parthau parcio.

Mae'r drwydded yn ddigidol ac wedi'i chysylltu â rhif cofrestru eich cerbyd felly nid oes angen i chi ei harddangos.

Sut i wneud cais am drwydded gofalwr proffesiynol

Dim ond gofalwyr all wneud cais am drwydded. Ni all y person rydych yn gofalu amdano wneud cais amdani ar eich rhan.

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi lanlwytho'r dystiolaeth isod:

  • Sut mae'r cerbyd yn gysylltiedig â chi. Er enghraifft, dogfen V5C neu ddogfen yswiriant.
  • Cyflogaeth. Er enghraifft, contract neu fathodyn gwaith.

Bydd rhaid i chi greu cyfrif ar MiPermit i wneud cais am drwydded ddigidol.

Sut i ddefnyddio'r drwydded

Byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau unwaith y bydd eich cais am drwydded wedi'i gymeradwyo.

Yna gallwch ddefnyddio'r Ap MiPermit i gofrestru eich cerbyd ar gyfer arhosiad parcio 2 awr yn y parth parcio lle'r ydych yn darparu gofal.

Gellir dod o hyd i wybodaeth o fewn telerau ac amodau eich trwydded am ble gallwch a ble na allwch barcio.

Bydd angen i chi actifadu'ch trwydded bob tro y byddwch yn parcio, fel arall efallai y cewch ddirwy barcio.

Mae eich trwydded yn ddilys am hyd at 2 awr ar ôl yr amser cychwyn, a gallwch gael mwy nag 1 trwydded weithredol ar y tro.

Mae Trwyddedau Gofalwyr Proffesiynol wedi'u cynllunio i ganiatáu ymweliadau cartref â chleifion. Ni ddylid eu defnyddio ar gyfer:

  • defnydd personol,
  • parcio dyddiol, neu
  • ar gyfer parcio fel cymudwyr.

Does dim rhaid i chi fyw yng Nghaerdydd i wneud cais. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi ddarparu gofal cartref i drigolion y ddinas fel rhan o'ch swydd.

Costau

Gweld costau trwydded gofalwr proffesiynol:

Trwyddedau gofalwyr proffesiynol
MathCost
6 mis£10
12 mis£20

 

Nid ydym yn cynnig ad-daliadau ar gyfer y math hwn o drwydded.

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth neu help i wneud cais, gallwch ffonio'r tîm MiPermit ar 0333 123 6006.