Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cynigion Parth Parcio K3 Butetown

Hoffem glywed eich barn ar ein cynnig parcio ar gyfer yr ardal o amgylch Sgwâr Loudoun a Stryd Bute (ardal ganol Butetown).

Nod y cynnig yw:

  • helpu i sicrhau mannau parcio i breswylwyr,
  • atal parcio anystyriol,
  • annog cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a
  • gwella amodau parcio yn gyffredinol i'r gymuned.

Yr hyn rydym yn ei gynnig

Rydyn ni'n cynnig cyflwyno parth parcio newydd yn yr ardal hon.

Bydd y parth parcio yn cynnwys yr ardaloedd o gwmpas:

  • Stryd Alice,
  • Stryd Angelina,
  • Stryd Bute (rhwng cyffyrdd Heol Hemingway a Sgwâr Callaghan),
  • Stryd Christina,
  • Stryd yr Eglwys Roegaidd,
  • Stryd Hannah,
  • Stryd Hodges,
  • Sgwâr Hodges,
  • Sgwâr Loudoun,
  • Stryd Ogleddol yr Eglwys,
  • Plas Deheuol Loudoun,
  • Stryd Maria, a
  • Clos y Gorllewin.

Ardal lle mae'r holl barcio ar y stryd yn cael ei reoli yn ystod amseroedd penodol yw parth parcio. Mae ynddo fannau parcio sy'n cael eu hystyried yn fannau diogel i barcio, a llinellau melyn lle gallai parcio yno fod yn beryglus.

Er mwyn cyflwyno'r parth, byddwn yn:

  • cynyddu nifer y mannau parcio i ddeiliaid trwydded yn unig,
  • sicrhau bod yr holl barcio yn yr ardal yn cael ei reoli mewn rhyw ffordd,
  • cyflwyno parcio talu ac arddangos ar Stryd Bute,
  • cyflwyno llinellau melyn newydd lle bo angen i atal parcio sy'n beryglus neu'n achosi rhwystr.

Bydd y mannau parcio i ddeiliaid trwydded yn unig yn berthnasol 24 awr y dydd, bob dydd. Gall deiliaid trwydded barcio ar eu stryd neu ar y stryd agosaf sydd ar gael o fewn y parth.

Bydd mannau parcio aros cyfyngedig a thalu ac arddangos yn weithredol rhwng 8am ac 8pm. Fodd bynnag, bydd deiliaid trwydded yn gallu parcio yn y mannau hyn ar unrhyw adeg, heb dalu am docyn.

Bydd yr ardal o amgylch y parc ar Glos y Gorllewin yn dod yn ardal parcio â thrwydded. Mae hon yn ardal lle nad oes mannau parcio wedi'u paentio ar y ffordd, ond bydd angen trwydded ar unrhyw gerbyd i barcio ar y briffordd. Rhoddir gwybod i yrwyr am hyn drwy arwyddion wrth fynd i mewn a gadael y parth. Fodd bynnag, ni fydd angen trwydded ar gerbydau sydd wedi parcio ar ddreifiau preifat.

Dweud eich dweud

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 15 Mehefin 2025.

Rydyn ni wrthi'n adolygu adborth cyn i ni benderfynu p'un a fyddwn yn parhau â'r cynllun ai peidio.

Gwiriwch eto am unrhyw ddiweddariadau ar ein penderfyniad.