Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 31 Hydref 2025.
Rydym eisiau gwybod beth ydych chi'n ei feddwl am ein cynlluniau ar gyfer newidiadau i'r briffordd ar Inverness Place.
Yr hyn rydym yn ei gynnig
Byddai ein cynigion yn cyflwyno:
- Croesfan sebra ddyrchafedig ar Inverness Place, ger y gyffordd â Dalcross Street.
- Palmentydd botymog a chyrbiau isel, i wella troedffyrdd a mannau croesi ger y gyffordd.
Gweld map o'r cynigion (PDF, 253 KB).
Pam rydym yn cynnig gwelliannau
Rydym yn cynnig y gwelliannau hyn i helpu i greu amgylchedd mwy diogel i bawb ac i gefnogi teithio llesol. Er enghraifft, drwy:
- annog cyflymder is gan gerbydau ar hyd Inverness Place, a
- gwella cyfleusterau croesfan i gerddwyr, yn enwedig i i blant sy'n teithio i ac o Ysgol Gynradd Parc y Rhath.
Ariannu
Rydym yn chwilio am gyllid ar gyfer y prosiect hwn o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.Yn amodol ar gyllid, rydym yn bwriadu cyflawni'r cynllun yn ystod blwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Adroddiad ar yr ymgynghoriad
Fe wnaethom gynnal ymgynghoriad rhwng 10 Hydref a 31 Hydref 2025. Mae adroddiad yr ymgynghoriad yn dangos yr adborth a gawsom. Mae hefyd yn rhoi rhestr o sylwadau, safbwyntiau neu bryderon a godwyd.
Yng ngoleuni'r ymgynghoriad cyhoeddus, rydym yn bwriadu bwrw ymlaen â'r cynnig fel y nodir ar y cynllun.
Darllen adroddiad llawn yr ymgynghoriad (PDF, 123 KB).
Gweld yr hysbysiad safle wedi'i ddiweddaru (PDF, 253 KB).
Mwy o wybodaeth am fesurau traffig
Darganfyddwch beth mae pob term yn ei olygu:
Croesfan sebra
Mae'r rhain yn addas ar gyfer safleoedd sydd â lefelau canolig o alw gan gerddwyr a llif cerbydau, lle na fyddai croesfan pâl yn addas.
Gall y math hwn o groesfan fod o fudd i gerddwyr gan nad oes isafswm amser aros ar gyfer yr hawl i groesi.
Gellir cyfuno croesfannau sebra â rhwystrau ymwthiol. Gallai'r rhain:
- wella gwelededd i yrwyr a cherddwyr,
- lleihau pellteroedd croesi, a
- helpu cerddwyr i ddangos eu bod yn bwriadu croesi ffordd.
Croesfan sebra ddyrchafedig
Croesfannau sebra yw'r rhain sydd yn cynnwys bwrdd arafu, neu pan fyddant wedi eu gosod wrth gyffordd ddyrchafedig (naill ai ar ei phen ei hun neu fel rhan o gyfres ehangach o fesurau arafu traffig).
Rhwystr ymwthiol
Mae hwn yn rhan o droedffordd sydd wedi'i ledu. Gallwn ddefnyddio rhwystrau ymwthiol i:
- ail-lunio cyffyrdd,
- diffinio mannau parcio, a
- lleihau pellteroedd i gerddwyr wrth groesi.
Gallant wella gwelededd i bawb.
Palmant botymog
Mae hwn yn fath o balmant sy'n helpu i rybuddio defnyddwyr ag amhariad ar eu golwg nad oes bwlch rhwng y droedffordd a'r ffordd.
Cwrbyn isel
Dyma lle mae'r lefel rhwng y droedffordd a'r ffordd yn cael ei leihau gymaint â phosibl, i helpu:
- defnyddiwr cadair olwyn,
- pobl â chadeiriau gwthio, a
- defnyddwyr eraill sydd ag amhariad symudedd.
Mae cyrbau isel yn cael eu defnyddio ar gyfer y ffurf symlaf o groesfan i gerddwyr. Maen nhw hefyd yn cynnwys palmant botymog.
