Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Ymgynghoriad ar barth parcio D2 Gogledd Plasnewydd

​​​Rydym yn cynnig parth parcio newydd ym Mhlasnewydd a hoffem glywed gennych chi

Pam rydym yn cynnig newidiadau

Rydym yn ymwybodol bod pobl yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i le parcio addas yn yr ardal hon. 

Byddai parth parcio newydd yn helpu i: 

  • Blaenoriaethu lleoedd parcio i breswylwyr a'u hymwelwyr. 
  • Cefnogi busnesau trwy annog gyrwyr i barcio dim ond am gyhyd ag sydd angen iddynt, er mwyn helpu i ryddhau lleoedd.
  • Ei gwneud hi'n haws i siopwyr ac ymwelwyr ddod o hyd i le parcio cyfleus. 
  • Stopio parcio problemus.
  • Gwella llif traffig.

Rydym hefyd wedi helpu i leihau problemau tebyg mewn ardaloedd eraill trwy gyflwyno parthau parcio.

Ymgynghorwyd ar gyflwyno parth parcio yn yr ardal hon yn y gorffennol, a chawsom lawer o adborth cadarnhaol. Yn anffodus, nid oeddem yn gallu bwrw ymlaen â'r cynllun ar y pryd oherwydd pandemig COVID-19.

Lle byddai'r cynllun yn berthnasol

Byddai cyfyngiadau yn berthnasol i:

  • Heol Albany (rhwng ei chyffordd â Heol y Plwca a'i chyffordd â Heol Wellfield), 
  • Arabella Street,
  • Angus Street,
  • Bangor Street,
  • Braeval Street,
  • Boverton Street,
  • Dalcross Street,
  • Stryd Daviot,
  • Donald Street, 
  • Diana Street,
  • Essich Street,
  • Kelvin Street,
  • Hendy Street,
  • Inverness Place,
  • Plas Mackintosh,
  • Montgomery Street, 
  • Morlais Street,
  • Moy Road,
  • Heol Ninian,
  • Pen-y-wain Place,
  • Pen-y-wain Road,
  • Heol Shirley,
  • Tulloch Street,
  • Tydfil Place,
  • Ty'n-y-coed Place,
  • Violet Row, a
  • Werfa Street. 

Byddai unrhyw ffordd neu lôn arall sydd ond yn hygyrch o'r strydoedd a restrir yn cael ei chynnwys yn y parth.

Gweler map o ffin y parth (PDF, 313 KB).

Pryd fyddai'r cynllun yn weithredol

Rydym yn cynnig y byddai'r cyfyngiadau yn berthnasol rhwng:

  • 8am a 6:30pm,
  • 8am ac 8pm, neu
  • 8am ac 10pm. 

ac y byddant yn weithredol:

  • o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, neu 
  • o ddydd Llun i ddydd Sul. 

Dyma pryd y byddai'r rhan fwyaf o gyfyngiadau parcio yn weithredol. Er enghraifft:

  • parcio â thrwydded, 
  • mannau aros cyfyngedig, 
  • mannau talu ac aros,
  • llinellau melyn sengl.

Byddai llinellau melyn dwbl a mannau i bobl anabl yn dal i fod yn berthnasol drwy'r dydd, bob dydd.

Mathau o drwyddedau

Os yw'r sawl sy'n ymgeisio yn gymwys, byddai trwyddedau'n cael eu rhoi i'r canlynol: 

  • preswylwyr a'u hymwelwyr, 
  • busnesau (ar gyfer cerbydau gweithredol yn unig), ac
  • adeiladau cymunedol (megis mannau addoli a neuaddau cymunedol).

Byddai pob eiddo yn gymwys i gael hyd at 2 drwydded. 

Byddai gofalwyr, contractwyr ac athrawon hefyd yn gallu gwneud cais am drwydded wrth weithio yn y parth. 

Gwelwch pa fathau o drwyddedau rydym yn eu cynnig.

Ni fyddem yn rhoi trwyddedau ar gyfer: 

  • cymudo neu fannau parcio i staff, 
  • neuaddau preswyl i fyfyrwyr,  
  • ail gartrefi neu lety dros dro (fel gosodiadau tymor byr neu lety gwyliau), 
  • eiddo ar ffyrdd preifat, 
  • datblygiadau gyda meysydd parcio oddi ar y stryd, hyd yn oed os nad oes digon o le i barcio ar gyfer yr holl eiddo yn y datblygiad, neu
  • cerbydau trwm (dros 3.5 tunnell).

 

Cost trwyddedau

Costau parcio Costau parcio talu ac aros ym mharth parcio D2
AmserCost
30 munudAm ddim (byddai angen tocyn o hyd)
​1 awr​£1.50
​2 awr​£3
​3 awr​£4.50

Byddai costau trwyddedau yr un peth â'r rhai sydd eisoes ar waith ledled y ddinas. Dysgwch fwy am drwyddedau.

Mae costau trwydded busnes yn dibynnu ar allyriadau eich cerbyd. Dysgwch fwy am drwyddedau busnes​.

Bydd deiliaid bathodynnau glas yn gallu parcio am ddim mewn mannau talu ac aros, ac am gyhyd ag sydd angen iddynt mewn mannau aros cyfyngedig. Bydd deiliaid bathodynnau glas hefyd yn gallu parcio mewn mannau i ddeiliaid trwydded yn unig am hyd at 3 awr heb drwydded.​

Parcio â thrwydded

Byddai gyrwyr sydd â thrwyddedau yn gallu parcio mewn:

  • mannau i ddeiliaid trwydded yn unig, 
  • mannau aros cyfyngedig defnydd a rennir (am gyhyd ag sydd angen),
  • mannau talu ac aros defnydd a rennir (heb fod angen tocyn ac am gyhyd ag sydd angen), ac
  • unrhyw fan parcio â thrwydded cymwys o fewn y parth.

Ni fyddai trwyddedau byth yn gwarantu lle parcio nac yn caniatáu parcio mewn parthau parcio eraill.  

Wrth gyflwyno parthau parcio rydym yn dilyn dull safonol o ddylunio. Rydym wedi dylunio map sy'n cynnig darlun lefel uchel o sut olwg allai fod ar y parth (PDF, 237 KB). Os oes cefnogaeth i'n cynigion parthau parcio yn gyffredinol, byddwn yn creu cynllun manwl.

Darllenwch fwy am sut rydym yn dylunio parthau parcio​.

Parcio heb drwydded

Byddai gyrwyr heb drwyddedau yn gallu parcio mewn mannau talu ac aros am hyd at 3 awr gyda thocyn. 

Byddai'r mannau hyn ar gael ar draws y parth i ymwelwyr a siopwyr eu defnyddio. 

Byddai parcio mewn mannau talu ac aros am ddim am y 30 munud cyntaf. Bydd angen i chi gael tocyn o hyd.

Byddem yn annog cymudwyr i ddod o hyd i opsiynau teithio amgen.  

Y tu allan i oriau gweithredol y cynllun, byddai parcio yn parhau i fod yn anghyfyngedig oni nodir yn wahanol.

Dweud eich dweud

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 14 Medi 2025. Cawsom 312 o ymatebion. 

Er bod 76% o bobl wedi dweud eu bod yn credu bod parcio yn yr ardal hon yn 'anodd' neu'n 'anodd iawn', dim ond 45% o bobl oedd o blaid y parth parcio arfaethedig.

O ystyried hyn, ni fyddwn yn bwrw ymlaen â pharth parcio D2 ar hyn o bryd.