Rydym yn cynnig newidiadau i barcio yn ardal Gabalfa a hoffem glywed gennych.
Gweld y Pecyn Ymgysylltu am Barthau Parcio (PDF, 3 MB).
Mae'r newidiadau hyn i helpu gyda'r canlynol:
- Blaenoriaethu lleoedd parcio i breswylwyr a'u hymwelwyr,
- Cefnogi busnesau drwy sicrhau bod trosiant o gerbydau,
- Ei gwneud hi'n haws i siopwyr ac ymwelwyr ddod o hyd i barcio cyfleus,
- Atal parcio diystyriol a rhwystrol, a
- Gwella'r amodau parcio i'r gymuned yn gyffredinol.
Pam rydyn ni'n cynnig y newidiadau hyn
Yn 2022 fe wnaethom gyflwyno Parth Parcio C4 yn cwmpasu dwyrain Gabalfa.
Rydym wedi cael ceisiadau gan drigolion a busnesau ffyrdd cyfagos i gael ein cynnwys yn y cynllun parcio parthol hefyd.
O hyn, rydym yn ystyried a fyddai cefnogaeth leol am y canlynol:
- creu parth parcio newydd i'r dwyrain o'r ardal C4 bresennol, neu
- ymestyn parth parcio presennol C4 i gwmpasu ardal fwy.
Lleoliad y Parth
Byddai'r cynllun yn cynnwys y ffyrdd canlynol yn ardal Gabalfa:
- Gerddi Affrica
- Australia Road
- Canada Road
- Clodien Avenue
- Curll Avenue
- Flaxland Avenue
- Heathfield Road
- Heathfield Place
- Longspears Avenue
- Maitland Street
- Newfoundland Road
- Heol Seland Newydd
- Penybryn Road
- Quentin Street
- St Mark's Avenue
- St Mark's Gardens
- Heol yr Eglwys Newydd
Byddai unrhyw ffordd neu lôn arall sy'n hygyrch o'r uchod yn unig hefyd yn cael ei chynnwys yn y Parth.
Pryd fydd y parth ar waith?
Hoffem wybod pa amseroedd a dyddiau fyddai'n gweithio orau i'r ardal.
Yr amseroedd safonol y mae parthau parcio yn gweithredu yw:
- 8am tan 6.30pm
- 8am tan 8pm, neu
- 8am tan 10pm.
Byddai cyfyngiadau parcio yn berthnasol i'r canlynol:
- parcio â thrwydded,
- mannau aros cyfyngedig,
- mannau talu ac aros, a
- llinellau melyn sengl.
Byddai cyfyngiadau hefyd yn berthnasol drwy'r dydd, bob dydd i'r canlynol:
- llinellau melyn dwbl, a
- bathodynnau glas.
Y diwrnodau safonol y mae parthau parcio yn gweithredu yw:
- o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, neu
- o ddydd Llun i ddydd Sul.
Mathau o drwyddedau
Byddem yn rhoi trwyddedau i'r canlynol:
- preswylwyr cymwys,
- busnesau cymwys, a
- safleoedd cymunedol cymwys.
Byddai gofalwyr, contractwyr ac athrawon yn gallu gwneud cais am drwyddedau wrth weithio yn y parth.
Gweler rhagor o wybodaeth am y mathau o drwyddedau rydym yn eu rhoi.
Ni fyddem yn rhoi trwyddedau i'r canlynol:
- Busnesau sydd â pharcio oddi ar y stryd
- Parcio ar gyfer cymudwyr neu staff
- Neuaddau preswyl i fyfyrwyr
- Llety dros dro (fel llety byrdymor neu lety gwyliau)
- Eiddo ar ffyrdd preifat
- Datblygiadau gyda meysydd parcio oddi ar y stryd (hyd yn oed os nad oes digon o le i barcio ar gyfer yr holl eiddo yn y datblygiad)
- Cerbydau trwm (dros 3.5 tunnell)
Parcio â thrwydded
Byddai gyrwyr sydd â thrwyddedau yn gallu parcio mewn:
- mannau i ddeiliaid trwydded yn unig,
- mannau aros cyfyngedig defnydd a rennir, mor hir ag sydd ei angen, a
- mannau talu ac aros defnydd a rennir, heb fod angen tocyn ac mor hir ag sydd angen.
Byddai deiliaid trwydded yn gallu parcio mewn unrhyw fan parcio â thrwydded cymwys yn yr ardal.
Gweler sut rydym yn dylunio parthau parcio.
Parcio heb drwydded
Byddai gyrwyr heb drwyddedau yn gallu parcio mewn mannau talu ac aros am hyd at 4 awr gyda thocyn
Byddai'r mannau hyn ar gael ar draws y parth i siopwyr ac ymwelwyr eu defnyddio.
Byddai yna hefyd rai cilfachau parcio aros cyfyngedig 2 awr am ddim mewn ardaloedd preswyl.
Byddem yn annog cymudwyr i ddod o hyd i opsiynau teithio amgen.
Cost
Byddai parcio talu ac aros ar y stryd yn costio £1.50 yr awr.
Byddai'r awr gyntaf yn rhad ac am ddim, gyda thocyn am ddim.
Byddai costau trwyddedau'r un peth â'r rhai sydd eisoes ar waith ledled y ddinas. Byddai costau trwyddedau busnes yn dibynnu ar ba mor llygredig yw'r cerbyd. Darganfyddwch fwy am gostau trwydded.
Byddai trefniadau parcio i ddeiliaid bathodyn glas yn aros yr un peth. Dysgwch fwy am barcio i ddeiliaid bathodyn glas.
Dweud eich dweud
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 14 Mehefin 2026.
