Rydyn ni'n cynnig 2 barth parcio newydd ym Mhlasnewydd a hoffwn ni glywed eich barn.
Mae parthau parcio yn helpu i:
- Flaenoriaethu lleoedd parcio i breswylwyr a'u hymwelwyr.
- Cefnogi busnesau drwy sicrhau bod trosiant o gerbydau.
- Ei gwneud hi'n haws i siopwyr ac ymwelwyr ddod o hyd i le parcio cyfleus.
- Stopio parcio gan gymudwyr a pharcio anystyriol.
Pam rydyn ni'n cynnig y parthau parcio
Rydyn ni'n ymwybodol bod pobl yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i le parcio addas oherwydd galw mawr yn yr ardaloedd hyn. Mae parthau parcio wedi helpu i leihau'r problemau hyn mewn rhannau eraill o'r ddinas.
Rydyn ni hefyd yn cynnig nifer o newidiadau yn yr ardal ehangach. Mae hyn yn cynnwys gwell opsiynau o ran bysus ac i gerddwyr.
Parth parcio D1 - Canol Plasnewydd
Rydyn ni'n cynnig y byddai'r cyfyngiadau yn berthnasol rhwng:
- 8am a 6.30pm, neu
- 8am ac 8pm.
Ac y byddan nhw'n weithredol:
- O ddydd Llun i ddydd Sadwrn, neu
- O ddydd Llun i ddydd Sul.
Byddai llinellau melyn dwbl a mannau i ddeiliaid bathodyn glas yn berthnasol trwy'r dydd, bob dydd.
Strydoedd yn y parth
- Arran Street
- Bedford Street
- Bruce Street
- Byron Street
- Cottrell Road
- Heol y Plwca (rhwng y gyffordd â Vere Street a Heol Albany)
- Clive Place
- Crofts Street
- Cyfarthfa Street
- Dylan Place
- Fitzroy Street
- Heol Gordon
- Glenroy Street
- Keppoch Street
- Kincraig Street
- Lily Street
- Milton Street
- Northcote Street
- Pearson Street
- Penlline Street
- Plasnewydd Place
- Plasnewydd Road
- Rose Street
- Heol Richmond
- Cilgant Richmond
- Russell Street
- St Peter's Street
- Shakespeare Street
- Strathnairn Street
- Talworth Street
- Tavistock Street
- Treharris Street
- Upper Kincraig Street
Byddai unrhyw ffordd neu lôn arall sydd ond yn hygyrch o'r strydoedd a restrir yn cael ei chynnwys yn y parth.
Mathau o drwyddedau
Bydden ni'n rhoi trwyddedau ar gyfer:
- Preswylwyr a'u hymwelwyr
- Busnesau (ar gyfer cerbydau gweithredol yn unig)
- Adeiladau cymunedol (megis mannau addoli a neuaddau cymunedol)
Gallwch chi gael 2 drwydded fesul eiddo.
Byddai gofalwyr, contractwyr ac athrawon hefyd yn gallu gwneud cais am drwyddedau wrth weithio yn y parth.
Ni fydden ni'n rhoi trwyddedau ar gyfer:
- Parcio gan gymudwyr neu staff
- Neuaddau preswyl i fyfyrwyr
- Eiddo ar ffyrdd preifat
- Datblygiadau gyda pharcio oddi ar y stryd (hyd yn oed os nad oes digon o leoedd parcio ar gyfer yr holl eiddo yn y datblygiad)
- Cerbydau trwm (dros 3.5 tunnell)
Parcio gyda thrwydded
Byddai gyrwyr sydd â thrwyddedau yn gallu parcio mewn:
- Mannau i ddeiliaid trwydded yn unig
- Mannau aros cyfyngedig defnydd a rennir (mor hir ag sydd ei angen)
- Mannau talu ac aros defnydd a rennir (mor hir ag sydd ei angen heb daliadau ychwanegol)
Parcio heb drwydded
Byddai gyrwyr heb drwyddedau yn gallu parcio mewn:
- Mannau aros cyfyngedig am hyd at 30 munud
- Mannau talu ac aros am hyd at 3 awr
Byddai'r mannau hyn ar gael ar draws y parth i ymwelwyr a siopwyr.
Byddai parcio mewn mannau talu ac aros am ddim am y 30 munud cyntaf. Byddai angen tocyn o hyd i wneud hyn.
Bydden ni'n annog cymudwyr i ddod o hyd i opsiynau teithio amgen.
Cost
| Amser | Cost |
|---|---|
| 30 munud | Am ddim (mae angen tocyn o hyd) |
| 1 awr | £1.50 |
| 2 awr | £3 |
| 3 awr | £4.50 |
Mae costau trwydded busnes yn dibynnu ar allyriadau eich cerbyd. Dysgwch fwy am drwyddedau busnes
Byddai costau trwydded yr un fath â'r rhai sydd eisoes ar waith ledled y ddinas. Dysgwch fwy am drwyddedau.
Byddai trefniadau parcio i ddeiliaid bathodyn glas yn aros yr un fath. Dysgwch fwy am barcio i ddeiliaid bathodyn glas.
Parth parcio B5A - De Plasnewydd
Rydyn ni'n cynnig y byddai'r cyfyngiadau yn berthnasol bob dydd rhwng 8am a 10pm.
Byddai llinellau melyn dwbl a mannau i ddeiliaid bathodyn glas yn berthnasol trwy'r dydd, bob dydd.
Strydoedd yn y parth
- Heol y Plwca (rhwng y gyffordd â Heol Casnewydd a Vere Street)
- Cowper Place
- Llwyn y Dwyrain
- Oxford Lane
- Oxford Street
- Southey Street
- Y Parêd
- Y Rhodfa
- Llwyn y Gorllewin
- Coedlan Wordsworth
Mathau o drwyddedau
Bydden ni'n rhoi trwyddedau ar gyfer:
- Preswylwyr a'u hymwelwyr
- Adeiladau cymunedol (megis mannau addoli a neuaddau cymunedol)
Gallwch chi gael 2 drwydded fesul eiddo.
Byddai gofalwyr a chontractwyr hefyd yn gallu gwneud cais am drwyddedau wrth weithio yn y parth.
Ni fydden ni'n rhoi trwyddedau ar gyfer:
- Parcio gan gymudwyr neu staff
- Neuaddau preswyl i fyfyrwyr
- Eiddo ar ffyrdd preifat
- Datblygiadau gyda pharcio oddi ar y stryd (hyd yn oed os nad oes digon o leoedd parcio ar gyfer yr holl eiddo yn y datblygiad)
- Cerbydau trwm (dros 3.5 tunnell)
Parcio gyda thrwydded
Byddai gyrwyr sydd â thrwyddedau yn gallu parcio mewn:
- Mannau i ddeiliaid trwydded yn unig
- Mannau aros cyfyngedig defnydd a rennir (mor hir ag sydd ei angen)
- Mannau talu ac aros defnydd a rennir (mor hir ag sydd ei angen heb daliadau ychwanegol)
Parcio heb drwydded
Byddai gyrwyr heb drwyddedau yn gallu parcio mewn:
- Mannau aros cyfyngedig am hyd at 2 awr
- Mannau talu ac aros am hyd at 6 awr
Byddai'r mannau hyn ar gael ar draws y parth i ymwelwyr a siopwyr.
Bydden ni'n annog cymudwyr i ddod o hyd i opsiynau teithio amgen.
Cost
| Amser | Cost |
|---|---|
| 1 awr | £3.50 |
| 2 awr | £4.50 |
| 3 awr | £5.50 |
| 4 awr | £6.50 |
| 5 awr | £7.50 |
| 6 awr | £8.50 |
Bydd costau trwydded yr un fath â'r rhai sydd eisoes ar waith ledled y ddinas. Dysgwch fwy am drwyddedau.
Byddai trefniadau parcio i ddeiliaid bathodyn glas yn aros yr un fath. Dysgwch fwy am barcio i ddeiliaid bathodyn glas.
Dweud eich dweud
Daeth yr ymgysylltiad hwn i ben ar 17 Awst 2025.
