Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cledrau Croesi Caerdydd - Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd

Rydym wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru am ganiatâd i adeiladu a rhedeg tramffordd newydd yng Nghaerdydd, o dan adran 6 Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992. Mae hyn yn rhan o Orchymyn Tramffordd Cledrau Croesi Caerdydd (Cam 1A).

Pe byddai'n cael ei ganiatáu, byddai'r gorchymyn yn rhoi caniatâd i:

  • Adeiladu, gweithredu a chynnal tramffordd newydd yng Nghaerdydd. Byddai'r dramffordd arfaethedig yn dechrau mewn safle newydd wrth ymyl gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog, yn teithio ar hyd Ffordd Tresilian, ar draws Sgwâr Callaghan, ac yn parhau i lawr Stryd Bute. Oddi yno, byddai'n cysylltu â'r rheilffordd bresennol rhwng gorsafoedd Heol y Frenhines a Bae Caerdydd gan ddefnyddio ramp ger cyffordd Stryd Bute a Stryd Ogleddol yr Eglwys.
  • Adeiladu darn byr o dramffordd a gwneud newidiadau i waith gorsaf o fewn coridor rheilffordd Bae Caerdydd. Byddai'r gwaith hwn yn digwydd rhwng cyffordd Stryd Bute, Plas Deheuol Loudoun, a Gorsaf Bae Caerdydd.
  • Caniatáu i sefydliad arall gymryd drosodd y caniatâd a roddwyd ar gyfer y dramffordd, a hefyd ymgymryd â'r gallu i wneud newidiadau i'r pwerau gweithredu sydd gan Drafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd ar gyfer coridor rheilffordd Bae Caerdydd.

​Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu nad oes angen Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol ar y cais hwn. Fodd bynnag, mae arfarniad amgylcheddol llawn yn cael ei gynnal i bennu effeithiau'r cynllun. Mae'r cais yn cynnwys caniatáu cais am ganiatâd cynllunio awtomatig.

Rydym hefyd wedi gwneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig mewn cysylltiad â'r drosbont reilffordd restredig Gradd II, sy'n cludo llinell reilffordd Bae Caerdydd ar draws y danffordd rhwng Stryd Bute a Rhodfa Lloyd George. 

Gweld dogfennau'r cais

Gallwch weld y dogfennau sy'n rhan o'r cais hwn ar wefan y Gwaith Achos Cynllunio. Gallwch ddod o hyd i'r dogfennau hyn drwy chwilio: 03524. 

Gallwch hefyd gael copïau o'r dogfennau hyn trwy e-bostio T[email protected]​. 

Gallwch hefyd weld copïau o'r dogfennau hyn drwy fynd i:

  • Ganolfan Gymunedol Butetown, neu
  • Hyb y Llyfrgell Ganolog. 

Canolfan Gymunedol Butetown 
Sgwâr Loudoun
Caerdydd CF10 5JA

Oriau agor:
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm.

Hyb y Llyfrgell Ganolog
Yr Ais
Caerdydd 
CF10 1FL

Gweld oriau agor Hyb y Llyfrgell Ganolog.

Gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau

Gallwch wneud sylwadau neu wrthwynebu'r cynigion drwy e-bostio neu ysgrifennu at Weinidogion Cymru. 

Yn eich gwrthwynebiad, nodwch:

  • eich enw a'ch cyfeiriad (mae hyn er mwyn i ni allu anfon gohebiaeth atoch am eich gwrthwynebiad), a
  • pam rydych chi'n gwrthwynebu'r cynigion. 

​​Rhaid i chi wneud eich sylwadau neu wrthwynebiadau erbyn 3 Hydref 2025.  Gall Llywodraeth Cymru rannu copïau o wrthwynebiadau a sylwadau eraill gyda'r cyhoedd. Darganfyddwch fwy drwy fynd i Hysbysiad Preifatrwydd Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru.
 
Os ydych chi'n gwrthwynebu ar e-bost, defnyddiwch 'Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd Cledrau Croesi Caerdydd (Cam 1A) CAS-03524-MGL5H9' fel pwnc.

[email protected]

Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru  
Adeiladau'r Goron 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ