Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Pentref yr Eglwys Newydd - dileu mesurau ymbellhau cymdeithasol

Yn dilyn y broses gyfreithiol ar gyfer newidiadau i'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (GRhT) ym Mhentref yr Eglwys Newydd, byddwn nawr yn dechrau gweithredu'r newidiadau a gymeradwywyd.  Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud ar:

  • Heol Merthyr, 
  • Heol Pen-llin,  
  • Heol yr Eglwys, a  
  • Bishop's Road. 

Mae'r gwaith hwn yn cynnwys gosod marciau ac arwyddion ffordd newydd a gwneud gwelliannau i briffyrdd a throedffyrdd. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y lleoliadau gwaith penodol yn Pecyn gwybodaeth newidiadau GRhT a gwelliannau troedffyrdd Cam 2 (PDF, 4 MB).
 
Gallwch hefyd weld:

Pentref yr Eglwys Newydd - dileu mesurau ymbellhau cymdeithasol

Rydym yn gweithredu mesurau rheoli traffig parhaol ar Heol Merthyr ym Mhentref yr Eglwys Newydd a'r strydoedd cyfagos.

Bydd mesurau traffig ymbellhau cymdeithasol a'r cynlluniau hirdymor yn cael eu cynnal fesul cam.

Y camau hyn yw:

  • Cam 1 - Dileu'r bolardiau a'r trefniant parcio dros dro (wedi ei gwblhau)
  • Cam 2 - Newidiadau GRhT a gwella'r llwybr troed (mewn adeiladu)
  • Cam 3 - Cynllun lliniaru llifogydd (cynnig hirdymor) - cynnig cynllun ar wahân)

Nod y cynigion hyn yw mynd i'r afael â'r canlynol:

  • y pryderon diogelwch a godwyd, a
  • gwelliannau i goridorau bysiau fel gwella amseroedd teithio ar fysiau a mynediad.

Gallwch wedl y cynnig llawn yn y pecyn ymgynghori (PDF, 1 MB).

Adroddiad yr Ymgynghoriad

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023.

Mae adroddiad yr ymgynghoriad yn crynhoi gwybodaeth o'r arolwg ar-lein, fel:

  • yr adborth a gawsom gan y preswylwyr a ​​perchnogion busnes, a
  • rhestr o sylwadau, safbwyntiau neu bryderon a godwyd.

Y prif bwyntiau a godwyd o'r ymgynghoriad yw:

  • Mae mwyafrif yr ymatebwyr yn cefnogi'r mesurau arfaethedig; 
  • Mae dros hanner yr ymatebwyr yn cael problemau yn ymwneud â thagfeydd traffig;
  • Mae'r rhan fwyaf o'r preswylwyr o'r farn y bydd y mesurau arfaethedig yn gwella argaeledd mannau parcio trwy osod terfyn amser ar barcio ar y stryd i bobl anabl;
  • Roedd llawer o wrthwynebiadau i safle tacsis yn y pentref;
  • Soniodd llawer o'r ymatebwyr hefyd fod y troedffyrdd yn rhy gul;
  • Mae rhai ymatebwyr yn credu y dylid sicrhau bod parcio arhosiad byr ar gael yn ardal y pentref; a
  • Mynegwyd pryderon am y croesfannau i gerddwyr ger Bishops Road, yn ogystal â materion parcio dwbl a llwytho.

Gallwch weld y cynllun wedi'i ddiweddaru, ein gweithredoedd, a'r camau nesaf yn adroddiad yr ymgynghoriad (PDF, 2 MB).