Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Coridor bysus y Gogledd - croesfannau sebra a lôn fysus Heol y Plwca

Rydyn ni'n awyddus i wybod beth ydych chi'n ei feddwl am ein cynlluniau i wneud newidiadau ar Heol y Plwca a rhai o'r strydoedd ochr.

Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig

Byddai'r mesurau rydyn ni'n eu cynnig yn cyflwyno croesfannau newydd i gerddwyr ac yn gwella'r rhai presennol ar hyd Heol y Plwca. Byddai hyn yn helpu pobl sy'n teithio i'r siopau lleol ac oddi yno.

Rydyn ni hefyd yn cynnig lôn fysus newydd ar ben isaf Heol y Plwca. Byddai hyn yn helpu i flaenoriaethu trafnidiaeth gynaliadwy a gwella amseroedd teithio ar fysus. Bydden ni'n gwneud newidiadau i leoliadau'r safleoedd bws ar hyd y llwybr hwn.

Fel rhan o'r cynigion, rydyn ni hefyd yn cyflwyno trefniadau parcio a llwytho newydd ar Heol y Plwca a rhan o'r strydoedd ochr. Byddai hyn yn helpu gyda throsiant parcio sy'n ei gwneud hi'n well i fusnesau a thrigolion lleol.

Rydyn ni hefyd yn datblygu parthau parcio ar gyfer yr ardal ehangach ac yn gofyn am eich barn ar wahân. Dysgwch am y parthau parcio arfaethedig ar gyfer Plasnewydd.

Mae cyfyngiadau parcio a llwytho newydd angen Gorchymyn Rheoli Traffig (GRhT). Bydden ni'n ymgynghori ar wahân ar gyfer y rhain fel rhan o'r broses GRhT gyfreithiol.

Gallwch chi weld:

I'ch helpu i ddychmygu'r newidiadau arfaethedig, rydyn ni wedi creu fideo o'r awyr.

Nodweddion allweddol y cynnig

Mae nodweddion allweddol y cynnig yn cynnwys:

3 croesfan sebra newydd

Bydden ni'n cyflwyno 3 croesfan sebra newydd ger cyffyrdd:

  • Keppoch Street a Glenroy Street
  • Cyfarthfa Street, Pearson Street a Tavistock Street
  • Talworth Street a Penlline Street

Gwelliannau ger Shakespeare Street

Bydden ni'n cyflwyno lôn feicio i Shakespeare Street a Milton Street. Byddai'r lôn yn un gwrthlif gorfodol sy'n golygu y byddai beicwyr yn teithio i'r cyfeiriad arall i'r system draffig unffordd. Mae hyn yn gwella mynediad i feicwyr.

Bydden ni'n uwchraddio'r groesfan twcan ger cyffordd Shakespeare Street a St Peter's Street. Byddai hyn yn cynnwys ardal â ramp a gwell amddiffyniad i'r cyswllt beicio i mewn i Shakespeare Street.

Newid croesfan ger Y Parêd

Bydden ni'n newid y groesfan sebra bresennol ger Y Parêd i groesfan pâl (sysem botymau gwthio goleuadau traffig).

Lôn fysus newydd

Bydden ni'n cyflwyno lôn fysus newydd ar Heol y Plwca rhwng Talworth Street a'r Parêd.

Safle bws a chysgodfan newydd

Bydden ni'n cyflwyno safle bws a chysgodfan newydd wrth ymyl 66 Heol y Plwca ac yn cael gwared ar y safleoedd ger yr Ernest Willows ac 84 Heol y Plwca. Byddai hyn yn gwella amseroedd teithio bysus.

Newidiadau i drefniadau parcio a Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (GRhTau)

Bydden ni'n cyflwyno sawl newid yn yr ardal, gan gynnwys:

  • Parth parcio newydd (parth parcio De Plasnewydd)
  • Lleoedd parcio talu ac aros newydd ar hyd Heol y Plwca a rhan o'r strydoedd ochr
  • Lôn fysus newydd
  • Newidiadau i gyfyngiadau parcio i gynnal llif traffig a gwella diogelwch
  • Mannau llwytho newydd, mannau i bobl anabl, a mannau arbennig (ar gyfer meddygon a chynllun rhentu Enterprise Car Club)

Troedffyrdd gwell

Bydden ni'n cyflwyno troedffyrdd parhaus ar draws y mwyafrif o'r strydoedd ochr i wella teithiau cerddwyr.

 

Cyllido

Rydyn ni'n awyddus i gael cyllid gan grant Cronfa Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru a hefyd o gyfraniadau datblygwyr (a elwir yn gyllid Adran 106). Ein nod yw cyflawni'r cynllun hwn ym mlwyddyn ariannol 2026 i 2027.

 

Dweud eich dweud

Daeth y broses ymgysylltu hon i ben ar 17 Awst 2025.

Rydym yn paratoi adroddiad ymgysylltu a byddwn yn cyhoeddi hwn maes o law.