Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwelliannau priffyrdd Rhodfa Llanrhymni

Rydym eisiau gwybod beth ydych chi'n ​ei feddwl am ein cynlluniau ar gyfer newidiadau i'r briffordd ar Rhodfa Llanrhymni, ger Canolfan Hamdden y Dwyrain.

Yr hyn rydym yn ei gynnig

Byddai ein cynigion yn cyflwyno: 

  • Croesfan sebra ddyrchafedig ger cyffordd Rhodfa Llanrhymni a Lynton Place. 
  • Croesfan sebra ddyrchafedig ger cyffordd Rhodfa Llanrhymni a Kewstoke Place.
  • Gwelliannau troedffordd yn yr ardal, gan gynnwys cyrbau isel a phalmant botymog.

Gallwch weld pob cynnig ar fap (PDF, 762 KB).

Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys rhwystrau ymwthiol wrth gyffordd i gyd-fynd â'r cyrbau o amgylch cyffyrdd Rhodfa Llanrhymni a:

  • British Legion Drive, 
  • Lynton Terrace, 
  • Lynton Place, 
  • Heol Ball, 
  • Canolfan Hamdden y Dwyrain 
  • Weston Road, 
  • Kewstoke Place, 
  • Watchet Close, 
  • Worle Avenue, a
  • Taunton Crescent.  

Pam rydym yn cynnig gwelliannau 

Rydym yn cynnig y gwelliannau hyn i helpu i greu amgylchedd mwy diogel i bawb ac i gefnogi teithio llesol.  Er enghraifft, drwy:

  • annog cyflymder is gan gerbydau ar hyd Rhodfa Llanrhymni, a
  • gwella cyfleusterau croesfan i gerddwyr, yn enwedig i bobl sy'n ymweld â'r ganolfan hamdden, siopau ac ysgolion lleol. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gyfleusterau croesi ar hyd y rhan hon o'r ffordd.

Ariannu

Rydym yn chwilio am gyllid ar gyfer y prosiect hwn o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.Yn amodol ar gyllid, rydym yn bwriadu cyflawni'r cynllun yn  ystod blwyddyn ariannol 2026 i 2027. 

Dweud eich dweud

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau. Derbyniwyd 8 ymateb:

  • Dywedodd 1 ymatebydd ei fod o blaid y cynigion.
  • Gwrthwynebodd 3 ymatebydd y cynnig. 
  • Gwnaeth 4 ymatebydd sylwadau ac awgrymiadau, ond ni wnaethant ddatgan a oeddent yn cefnogi neu'n gwrthwynebu'r cynigion.

Yn dilyn yr adborth, rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r cynllun. Gallwch weld materion penodol a godwyd yn y adroddiad ymgynghori llawn.

Gweld yr adroddiad ymgynghori (PDF, 165 KB)

Gweler yr hysbysiadau safle ar gyfer yr ymgynghoriad hwn (PDF, 714 KB)

Mwy o wybodaeth am fesurau traffig

Darganfyddwch beth mae pob term yn ei olygu: 

​​​​​​Croesfan sebra ddyrchafedig​​

Croesfannau sebra yw'r rhain sydd yn cynnwys bwrdd arafu, neu pan fyddant wedi eu gosod wrth gyffordd ddyrchafedig (naill ai ar ei phen ei hun neu fel rhan o gyfres ehangach o fesurau arafu traffig)​.​​

Rhwystr ymwthiol

Mae hwn yn rhan o droedffordd sydd wedi'i ledu. Gallwn ddefnyddio rhwystrau ymwthiol i ail-lunio cyffyrdd, diffinio mannau parcio a lleihau pellteroedd i gerddwyr wrth groesi. Gallant wella gwelededd i bawb.​
 

Palmant botymog

Mae hwn yn fath o balmant sy'n helpu i rybuddio defnyddwyr ag amhariad ar eu golwg nad oes bwlch rhwng y droedffordd a'r ffordd.

Cwrbyn isel

Dyma lle mae'r lefel rhwng y droedffordd a'r ffordd yn cael ei leihau gymaint â phosibl, i helpu:

  • defnyddiwr cadair olwyn,
  • pobl â chadeiriau gwthio, a 
  • defnyddwyr eraill sydd ag amhariad symudedd.

Mae cyrbau isel yn cael eu defnyddio ar gyfer y ffurf symlaf o groesfan i gerddwyr. Maen nhw hefyd yn cynnwys palmant botymog.