Rydym yn datblygu cynigion coridor trafnidiaeth gynaliadwy Caerdydd i Gasnewydd (coridor Heol Casnewydd). Bydd y coridor yn cynnwys y canlynol:
coridor bws y Dwyrain,traffordd feicio (Beicffordd 2), apharthau rheoli parcio.
Nod y cynigion yw:
cysylltu canol dinas Caerdydd â Chasnewydd a'r datblygiadau busnes ar Rodfa'r Gypreswydden,
annog pobl i ddefnyddio teithio cynaliadwy yn hytrach na'u ceir fel y disgrifir yn Papur Gwyn Trafnidiaeth Caerdydd a Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru,
gwella seilwaith bysus,
darparu llwybr beicio o ansawdd uchel,
cysylltu â beicffyrdd eraill fel Llwybr Beicio 1 a Llwybr Beicio 6.
Gweld y map o'r llwybr (PDF, 630 KB).
Mae mwy o wybodaeth am y llwybr a phob cam ar gael yn pecyn gwybodaeth Heol Casnewydd (PDF, 3 MB). Gweler fersiwn hygyrch testun yn unig pecyn gwybodaeth Heol Casnewydd (PDF, 195 KB).
Datblygiad pob cam
Bydd datblygu ac adeiladu coridor Heol Casnewydd yn cael ei rannu'n 6 prif gam.
Byddwn yn rhannu gwybodaeth benodol wrth iddo gael ei ddylunio a'i ddatblygu a byddwn yn ymgysylltu â chi ar bob cam.
Cam 1 - ardal canol y ddinas
Sylwer y bydd Cam 1 bellach yn cael ei rannu'n ddau gam, Cam 1a a Cham 1b am resymau rhaglennu a chyflawni.
Mae ymgysylltiad Cam 1 wedi cau, ac rydym yn paratoi adroddiad ymgysylltu ar gyfer y cam hwn. Gwelwch yr hyn rydym wedi'i gynnig ar gyfer Cam 1.
Cam 1a - fel rhan o Gam 1a, rydym wrthi'n ymgysylltu ar gynigion i wneud newidiadau i Ffordd y Brenin a'r ardaloedd cyfagos. Gallwch ddysgu mwy am gynigion Ffordd y Brenin a sut i ddweud eich dweud yma.
Cam 2 - Ardal Heol Lydan
Rydym yn dylunio'r cam hwn.
Cam 3 - Heol Lydan i Ffordd y De
Rydym yn dylunio'r cam hwn.
Cam 4 - Ffordd y De i Mount Pleasant
Byddwn yn dylunio'r cam hwn yn y dyfodol.
Cam 5 - Mount Pleasant i Rodfa'r Gypreswydden
Byddwn yn dylunio'r cam hwn yn y dyfodol.Cam 6 - Rhodfa'r Gypreswydden a chyswllt CasnewyddRydym yn dylunio'r cam hwn.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y gorsafoedd trên arfaethedig ar hyd y coridor ar wefan Trafnidiaeth Cymru (TrC).
Ymgysylltu cyfredol
Daeth yr ymgysylltiad ar gyfer cam 1 i ben ar 17 Awst 2025.
Rydym yn paratoi adroddiad ymgysylltu ar gyfer y cam hwn, a byddwn yn cyhoeddi hwn maes o law.
Darllenwch fwy am gam 1 coridor trafnidiaeth gynaliadwy Heol Casnewydd.
