Cam 1 - ardal canol y ddinas (coridor Heol Casnewydd)
Rydym yn datblygu Cam 1 coridor trafnidiaeth gynaliadwy Caerdydd i Gasnewydd (coridor Heol Casnewydd) sy'n rhan o gynnig ehangach cynllun coridor Heol Casnewydd.
O Heol y Gogledd, mae llwybr arfaethedig cam 1 yn dilyn:
- Boulevard de Nantes,
- Stuttgarter Strasse,
- Plas Dumfries, a
- Heol Casnewydd.
Gallwch weld lluniadau symlach o gam 1 (PDF, 1 MB). Bydd y llwybr hwn yn cysylltu â llwybrau beicio eraill yn y dyfodol.
Mae'r cynigion yn cynnwys:
- gwell safleoedd bws a seilwaith bysiau,
- beicffordd barhaol newydd i ddisodli'r feicffordd dros dro bresennol,
- gwell croesfannau a chyfleusterau i gerddwyr, a
- newidiadau i'r briffordd a threfn lonydd.
Ar hyn o bryd, rydym yn ymgysylltu ynghylch Cam 1 ac rydym yn dymuno clywed eich barn.
Yr hyn yr ydym yn ei gynnig
Rydym eisiau adborth ar bob agwedd ar y cynigion.
I'ch helpu i'w ddychmygu, rydym wedi creu fideo 3D o'r awyr.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mhecyn ymgysylltu Cam 1 (PDF, 4 MB). Gweler fersiwn hygyrch testun yn unig y pecyn ymgysylltu Cam 1 (PDF, 264 KB).
Prif agweddau'r cynnig
Dysgwch fwy am brif agweddau'r cynnig. Efallai y bydd rhai adrannau o Gam 1 yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach.
Mae'r rhestr hon yn grynodeb o nodweddion cam 1. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn y pecyn ymgysylltu.
Cyffordd Heol y Gogledd â Boulevard de Nantes
- Bydd cysylltiad beicio newydd yn cael ei ychwanegu ar ochr ogleddol Boulevard de Nantes.
- Bydd lonydd traffig yn cael eu haildrefnu.
- Bydd cyfnodedd goleuadau traffig yn cael ei newid.
- Bydd cysylltiad beicffordd newydd yn cael ei wneud ar y llwybr a rennir presennol ar ochr ddwyreiniol Heol y Gogledd sy'n arwain at Heol y Coleg.
Cyffordd Ffordd y Brenin i Boulevard de Nantes
- Bydd llwybr beicio parhaol yn cael ei ychwanegu ar ochr ogleddol Boulevard de Nantes a fydd yn disodli'r llwybr beicio dros dro.
- Bydd Ffordd y Brenin yn cau i draffig rhwng Boulevard de Nantes a Heol y Brodyr Llwydion.
- Bydd tanffordd (isffordd) Boulevard de Nantes yn cael ei llenwi a bydd croesfan newydd yn cael ei chyflwyno ar Boulevard de Nantes sy'n wastad â'r ffordd.
Man agored Ffordd y Brenin
- Ar ôl cael gwared â'r danffordd, bydd cyfle i greu man agored cyhoeddus newydd.
- Bydd cynlluniau yn cael eu datblygu ac ymgysylltir yn eu cylch yn ddiweddarach.
- Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen 11 o'r pecyn ymgysylltu.
Cyffordd Boulevard de Nantes, Plas y Parc a Stuttgarter Strasse
- Bydd llwybr beicio parhaol yn cael ei ychwanegu ar ochr ogleddol y ffordd, a fydd yn disodli'r llwybr beicio dros dro.
- Bydd croesfannau yn cael eu newid.
- Bydd lonydd traffig yn cael eu haildrefnu.
Cyffordd Cilgant Eglwys Andreas a Stuttgarter Strasse
- Bydd llwybr beicio parhaol yn cael ei ychwanegu ar ochr ogleddol y ffordd, a fydd yn disodli'r llwybr beicio dros dro.
- Bydd y gyffordd yn cau i gerbydau i wneud lle ar gyfer cyswllt beicio ac i wella diogelwch.
Cyffordd Lôn Eglwys Andreas a Stuttgarter Strasse
- Bydd llwybr beicio parhaol yn cael ei ychwanegu ar ochr ogleddol y ffordd, a fydd yn disodli'r llwybr beicio dros dro.
- Bydd goleuadau traffig yn cael eu cyflwyno i helpu i atal gwrthdaro rhwng cerbydau a beicwyr.
Plas Dumfries
- Bydd llwybr beicio parhaol yn cael ei ychwanegu ar ochr ddwyreiniol y ffordd, a fydd yn disodli'r llwybr beicio dros dro.
- Ceir gwared â safleoedd bws na fydd yn cael eu defnyddio mwyach o'r ochr ddwyreiniol. Bydd safleoedd bws ar yr ochr orllewinol yn cael eu diweddaru.
Cyffordd Rhodfa'r Orsaf a Heol Casnewydd
- Bydd llwybr beicio parhaol yn cael ei ychwanegu ar ochr ogleddol y ffordd, a fydd yn disodli'r llwybr beicio dros dro.
- Bydd y gyffordd yn cael ei gwella. Bydd llwybr beicio Rhodfa'r Orsaf yn cysylltu â'r llwybr beicio parhaol newydd.
Cyffordd Heol Fitzalan a Heol Casnewydd
- Bydd llwybr beicio parhaol yn cael ei ychwanegu ar ochr ogleddol y ffordd, a fydd yn disodli'r llwybr beicio dros dro.
- Bydd y gyffordd yn cael ei gwella.
Cyffordd Heol Casnewydd, Llwyn y Gorllewin a Phlas Fitzalan
- Bydd newidiadau yn cael eu gwneud i'r gyffordd i hwyluso'r feicffordd ar yr ochr ogleddol.
- Bydd croesfannau yn cael eu newid.
- Bydd lonydd traffig yn cael eu haildrefnu.
Agweddau eraill y gellir eu cyflwyno yn ddiweddarach
Er ein bod yn ymgysylltu ynghylch Cam 1 yn gyffredinol, byddwn yn gweithredu rhai adrannau yn ddiweddarach. Mae hyn er mwyn lleihau'r effaith ar y rhwydwaith.
Bydd y llwybr beicio parhaol newydd yn cysylltu â'r llwybr beicio dros dro presennol am gyfnod dros dro.
Dysgwch fwy am agweddau eraill y cynnig.
Heol Casnewydd (rhwng Llwyn y Gorllewin a Heol y Pedair Llwyfen)
- Bydd y llwybr beicio yn aros ar yr ochr ogleddol ac yn cael ei wneud yn barhaol.
- Bydd seilwaith bysiau yn cael ei wella.
- Bydd lonydd traffig yn cael eu haildrefnu.
Llwyn y Dwyrain a Phlas Howard
- Bydd mynediad i Heol Casnewydd yn cau i gerbydau.
- Bydd croesfan twcan newydd yn cael ei chyflwyno gyda chyswllt i Feicffordd 6.
Cyffordd Heol y Plwca, Heol Casnewydd a Heol Glossop
- Bydd aliniad y gyffordd yn cael ei wella.
- Bydd cyfleusterau croesi yn cael eu gwella.
- Bydd lonydd traffig yn cael eu haildrefnu.
Cyffordd Coedlan Wordsworth a Heol Casnewydd
- Bydd y trefniant troi 'chwith mewn, chwith allan' i gerbydau yn cael ei adolygu i wella diogelwch ar y gyffordd.
Oxford Lane
- Bydd y system unffordd yn cael ei hadolygu fel rhan o drefniadau mynediad Coedlan Wordsworth.
Cyffordd Piercefield Place a Heol Casnewydd
- Bydd y gyffordd yn cael ei chau i gerbydau.
- Bydd hidlydd moddol yn cael ei gyflwyno. Mae hwn yn ddyluniad ffordd sy'n cyfyngu mynediad i fathau penodol o gerbydau. Er enghraifft, yn caniatáu beiciau ond nid ceir.
- Bydd y rhan hon yn cysylltu â Cham 2 coridor Heol Casnewydd.
Dim ond os oes arian ar gael y byddwn yn gallu cyflawni'r cam hwn, a gan ystyried prosiectau eraill a allai fod yn cael eu cyflawni ar y rhwydwaith trafnidiaeth.
Darllenwch y pecyn ymgysylltu i gael rhagor o wybodaeth.
Dweud eich dweud
Daeth y broses ymgysylltu hon i ben ar 17 Awst 2025. Rydym yn paratoi adroddiad ymgysylltu a byddwn yn cyhoeddi hwn maes o law.
