Rydym yn cynnig newid trefniadau parcio o amgylch Pentref Llandaf a hoffem glywed gennych.
Yr hyn yr ydym yn ei gynnig
Rydym yn cynnig:
- cyflwyno mannau parcio ar gyfer deiliaid trwyddedau preswylwyr yn unig,
- cyflwyno rheolaethau parcio ychwanegol ar y Stryd Fawr i atal parcio rhwystrol,
- cynyddu nifer y mannau parcio i bobl anabl, a
- cyflwyno llinellau melyn newydd lle mae cerbydau'n parcio ac yn achosi rhwystr.
Pam rydym yn cynnig newidiadau
Diben y newidiadau hyn yw helpu i:
- blaenoriaethu lleoedd parcio i breswylwyr a'u hymwelwyr,
- cefnogi busnesau drwy sicrhau bod trosiant o gerbydau,
- ei gwneud hi'n haws i siopwyr ac ymwelwyr ddod o hyd i le parcio cyfleus,
- gwella mynediad i bobl anabl,
- atal parcio diystyriol a rhwystrol, a
- gwella'r amodau parcio i'r gymuned yn gyffredinol.
Lleoliadau'r newidiadau
Cynigir mai dim ond deiliaid trwyddedau preswylwyr fyddai'n cael parcio ar y strydoedd canlynol:
- Stryd y Bont
- Heol-y-Pavin
- Heol Fair
- Adeiladau Imperial
- Lawnt yr Eglwys Gadeiriol (ffordd bengaead preswyl)
- The Avenue
- Palace Avenue
- Caewal Road (rhwng Ely Road a Rhodfa'r Gorllewin)
Ar y Stryd Fawr rydym yn cynnig:
- cynyddu rheolaethau llwytho er mwyn atal parcio rhwystrol,
- cyflwyno mannau parcio newydd i bobl anabl, ac
- ailagor y lle parcio wedi'i fewnlenwi o flaen Fferyllfa Llandaf.
Ar Mitre Place, rydym yn cynnig cyflwyno mannau parcio arhosiad byr defnydd a rennir newydd.
Byddai parcio yn y lleoedd hyn yn cael ei gyfyngu i uchafswm o 2 awr, ac eithrio deiliaid trwyddedau a fydd yn gallu parcio cyhyd ag sydd angen.
Nid ydym yn cynnig unrhyw gyfyngiadau o amgylch Lawnt yr Eglwys Gadeiriol ar hyn o bryd, gan ein bod yn datblygu cynigion ar wahân ar gyfer yr ardal hon.
Gweler map o'r cynigion (PDF, 2 MB).
Pryd fyddai'r parth parcio ar waith?
8am i 6:30pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn fyddai amseroedd safonol y rheolaethau parcio.
Dyma pryd y byddai'r rhan fwyaf o gyfyngiadau parcio, fel parcio â thrwydded, lleoedd aros cyfyngedig, a llinellau melyn sengl yn berthnasol.
Byddai llinellau melyn dwbl a mannau parcio i ddeiliaid bathodyn glas yn parhau i fod yn berthnasol drwy'r dydd, bob dydd.
Mathau o drwyddedau
Os yw'r sawl sy'n ymgeisio yn gymwys, byddai trwyddedau'n cael eu rhoi i'r canlynol:
- preswylwyr, a
- busnesau.
Byddai gofalwyr a chrefftwyr yn gallu gwneud cais am drwydded dros dro wrth weithio yn y parth.
Gweler rhagor o wybodaeth am y mathau o drwyddedau rydym yn eu rhoi.
Ni fyddem yn rhoi trwyddedau ar gyfer:
- Busnesau sydd â pharcio oddi ar y stryd
- Parcio gan staff neu cymudwyr
- Neuaddau preswyl i fyfyrwyr
- Llety dros dro (fel llety byrdymor neu lety gwyliau)
- Eiddo ar ffyrdd preifat
- Datblygiadau gyda meysydd parcio oddi ar y stryd (hyd yn oed os nad oes digon o le i barcio ar gyfer yr holl eiddo yn y datblygiad)
- Cerbydau trwm (dros 3.5 tunnell).
Parcio gyda thrwydded
Byddai gyrwyr sydd â thrwyddedau yn gallu parcio mewn:
- mannau i ddeiliaid trwydded yn unig, a
- mannau aros cyfyngedig defnydd a rennir, mor hir ag sydd ei angen.
Byddai deiliaid trwydded yn gallu parcio mewn unrhyw fan parcio â thrwydded cymwys yn yr ardal.
Gweler sut rydym yn dylunio parthau parcio.
Parcio heb drwydded
Byddai gyrwyr heb drwyddedau yn gallu parcio am ddim yn y mannau Aros Cyfyngedig defnydd a rennir am hyd at 2 awr.
Byddai deiliaid bathodynnau glas yn gallu parcio am gyhyd ag sydd ei angen mewn mannau Aros Cyfyngedig, neu mewn mannau i Ddeiliaid Trwydded yn Unig am hyd at 3 awr heb drwydded.
Byddai cymudwyr yn cael eu hannog i ddod o hyd i opsiynau teithio amgen.
Cost trwyddedau
- Byddai gan breswylwyr hawl i hyd at ddwy drwydded fesul aelwyd, a nifer o drwyddedau i ymwelwyr.
- Byddai'r drwydded preswylydd gyntaf yn costio £25Byddai'r ail drwydded preswylydd yn costio £70
- Byddai trwyddedau ymwelwyr yn costio £35 fesul bwndel o 850 awr
Byddai gan fusnesau hawl i un drwydded fesul safle busnes, ar gyfer cerbyd gweithredol (er enghraifft cerbyd dosbarthu) sydd wedi'i yswirio at ddefnydd busnes.
Byddai cost trwydded busnes yn dibynnu ar faint o lygredd y mae'r cerbyd yn ei gynhyrchu.
Yr arwyddion a'r llinellau a fyddai'n cael eu defnyddio yn y parth
Rydym yn deall bod yr ardal hon yn ardal gadwraeth, felly byddem yn sicrhau, lle bynnag y bo modd, y byddai arwyddion a llinellau ar gyfer unrhyw gyfyngiadau newydd yn gydnaws ag estheteg weledol yr ardal.
Er enghraifft:
- Lle bo modd, byddem yn gosod arwyddion ar gelfi stryd presennol
- Byddai unrhyw byst a ddefnyddir ar gyfer arwyddion yn cael eu peintio'n ddu
- Byddai arwyddion mor fach ag y mae'r rheoliadau'n ei ganiatáu
- Ni fyddem yn defnyddio byrddau cefn melyn ar gyfer arwyddion
- Byddem yn gosod arwyddion lle byddent yn tarfu cyn lleied â phosibl ar yr ardal.
Dweud eich dweud
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 14 Mehefin 2026.
