Rydym yn cynnig parth parcio newydd a hoffem glywed gennych chi.
Gall parthau parcio helpu i wneud y canlynol:
- blaenoriaethu lleoedd parcio i breswylwyr a'u hymwelwyr,
- cefnogi busnesau drwy sicrhau bod trosiant o gerbydau,
- ei gwneud hi'n haws i siopwyr ac ymwelwyr ddod o hyd i le parcio, ac
- atal parcio gan gymudwyr a pharcio problemus.
Byddwn yn cyflwyno cyfyngiadau parcio fel:
- parcio deiliad trwydded yn unig i gyd
- parcio â bathodyn glas,
- mannau talu ac aros,
- mannau neu gyfyngiadau llwytho, a
- llinellau melyn.
Gallwch ddysgu mwy am barthau rheoli parcio yn y ddinas.
Ein rhesymau dros gynnig y newidiadau
Mae gwaith wedi dechrau ar yr arena newydd yng Nglanfa'r Iwerydd a fydd yn trawsnewid yr ardal, yn creu swyddi, ac yn tyfu'r economi yn y rhanbarth. Gallai hyn hefyd arwain at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr sydd eisiau parcio yn yr ardal yn ystod digwyddiadau.
Rydym am sicrhau na fydd preswylwyr dan anfantais oherwydd y newidiadau hyn. Rydym hefyd am annog ymwelwyr sy'n mynychu digwyddiadau i ddefnyddio opsiynau teithio eraill neu barcio mewn meysydd parcio cyfagos yn lle hynny.
Strydoedd wedi'u cynnwys yn y maes parcio
Bydd y parth yn cynnwys:
- Sgwâr Albert
- Barquentine Place
- Rhodfa Celerity
- Rhodfa Craiglee
- Felbridge Close
- Halliard Court
- Henke Court
- Heol Letton
- Llansannor Drive
- Mervinian Close
- Rhodfa'r Sgwner
- Ffordd y Sgwner
- Silurian Place
- Windlass Court
Oriau gweithredu
Bydd parcio i ddeiliaid yn unig, llinellau melyn dwbl a mannau parcio bathodyn glas ar waith drwy'r dydd, bob dydd.
Bydd y cfyfyngiadau parcio eraill yn y parth ar waith bob dydd rhwng 11am a 11pm. Ac eithrio Dydd Nadolig a Sul y Pasg.
Mathau o drwyddedau
Byddwn yn cyhoeddi trwyddedau ar gyfer y canlynol sy'n gymwys:
- trigolion,
- busnesau (cerbydau gweithredol yn unig), a
- mannau neu addoli cyhoeddus neu neuaddau cymunedol.
Caiff pob eiddo hyd at 2 drwydded. Bydd preswylwyr yn gallu cael trwyddedau ar gyfer eu hymwelwyr.
Bydd gofalwyr a chontractwyr hefyd yn gallu gwneud cais am drwydded dros dro wrth weithio yn y parth.
Ni fyddwn yn cyflwyno trwyddedau ar gyfer:
- cymudo neu fannau parcio i staff,
- llety myfyrwyr yn unig,
- eiddo ar ffyrdd preifat,
- datblygiadau gyda meysydd parcio oddi ar y stryd (hyd yn oed os nad oes digon o le i barcio ar gyfer yr holl eiddo yn y datblygiad), a
- cherbydau trwm (dros 3.5 tunnell).
Parcio gyda thrwydded
Bydd deiliaid trwydded yn gallu parcio cyhyd ag y bydd angen mewn:
- mannau i ddeiliaid trwydded yn unig, neu
- fannau talu ac aros a rennir.
Bydd deiliaid trwyddedau yn gallu parcio mewn unrhyw le parcio â thrwydded o fewn y parth. Does dim rhaid i'r lle fod ar eich stryd.
Parcio heb drwydded
Bydd gyrwyr heb drwyddedau yn gallu parcio am hyd at 3 awr gyda thocyn mewn mannau talu ac aros. Dim ond ar Ffordd y Sgwner y bydd y llefydd hyn.
Bydd cymudwyr a phobl sy'n mynychu digwyddiad yn cael eu hannog i ddefnyddio opsiynau teithio eraill.
Trwyddedau a chostau talu ac aros
| Mathau o drwydded | Cost |
|---|---|
| Trwydded breswyl gyntaf | £35 |
| Ail drwydded breswyl | £90 |
| Oriau ymwelwyr | £35 am bob 850 awr |
| Trwyddedau cymunedol | £35 yr un |
Os ydych chi am wneud cais am drwydded busnes, bydd y gost yn dibynnu ar allyriadau eich car.
| Oriau parcio | Cost |
|---|---|
| 1 awr | £2.50 |
| 2 awr | £5 |
| 3 awr | £7.50 |
| 4 awr | £10 |
Dweud eich dweud
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 15 Mehefin 2025.
Rydyn ni wrthi'n adolygu adborth cyn i ni benderfynu p'un a fyddwn yn parhau â'r cynllun ai peidio.
Gwiriwch eto am unrhyw ddiweddariadau ar ein penderfyniad.
