Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwneud cais am drwydded parcio preswylwyr

Gallwch wneud cais am drwydded parcio os ydych yn byw mewn stryd sy'n rhan o'r cynllun Trwyddedau Parcio Preswylwyr.

Rhaid i'r cyfeiriad rydych yn ei roi fod yn brif gyfeiriad i chi.

Mae cyfyngiad o 2 drwydded i breswylwyr fesul eiddo.

Mae pob trwydded yn ddilys am naill ai 3, 6, 9 neu 12 mis.

Dylai pob cais am drwydded parcio gael ei wneud trwy system MiPermit.

Mewngofnodi i MiPermit

Beth fydd ei angen arnoch chi i wneud cais

  • Cyfrif MiPermit,
  • rhif treth cyngor dilys,
  • rhif cofrestru'ch cerbyd, a
  • phrawf bod y cerbyd yn cael ei gadw yn eich cyfeiriad a bod cysylltiad rhyngddo a'r person sy'n gwneud cais am y drwydded.
     

Sut i wneud cais os ydych chi'n fyfyriwr neu os nad ydych chi'n gwybod eich rhif cyfrif treth gyngor

Os nad ydych chi'n gwybod neu os nad oes gennych chi fynediad at eich rhif treth gyngor, mae dal modd i chi wneud cais am drwydded ddigidol.

Bydd angen i chi gwblhau'r adran Gwneud Cais i Gofrestru ar y dudalen Cofrestru Trwydded.

Bydd angen i chi uwchlwytho prawf o'ch cyfeiriad, fel:

  • cytundeb tenantiaeth dilys sy'n dangos eich enw a'ch cyfeiriad yn ogystal â dyddiadau'r denantiaeth,
  • dogfen treth gyngor,
  • bil trydan/nwy/dŵr neu
  • cyfriflen banc.

Unwaith y bydd eich cyfrif wedi'i gymeradwyo, cewch chi e-bost i gadarnhau bod pethau wedi'u sefydlu, a chyfarwyddiadau ar sut i brynu trwyddedau.

Os oes gennych chi gyfrif MiPermit eisoes, cewch chi fewngofnodi a phrynu'ch trwyddedau.

Os ydyn ni'n creu cyfrif MiPermit i chi, byddwn ni'n anfon cod PIN atoch, sef eich cyfrinair. Rhaid defnyddio hwn o fewn 1 awr. Yna cewch chi newid eich cyfrinair a gwneud cais am eich trwyddedau.

Gall prawf o gerbyd gynnwys:

  • llyfr log y cerbyd (V5C),
  • cytundeb llogi neu brydlesu, neu
  • dogfen yswiriant. Dylai'r ddogfen nodi'r cyfeiriad lle y caiff eich car ei gadw.

Os ydych chi'n fyfyriwr ac yn myndâ'ch car gyda chi i'r brifysgol, rhaid i'ch car fod wedi'i yswirio yn eich cyfeiriad prifysgol. Gallwch chi nodi cyfeiriad gohebiaeth gwahanol os oes angen.

 

Creu cyfrif MiPermit

Creu cyfrif MiPermit.

Os na allwch chi greu cyfrif ar-lein, gallwch chi ffonio MiPermit ar 0333 123 6006.

Pan fydd gennych gyfrif gyda MiPermit, gallwch chi brynu a rheoli eich trwyddedau ar y wefan neu drwy Ap MiPermit.

 

Costau trwyddedau preswylwyr

Gweld y mathau o drwyddedau preswylwyr a chostau.

Math12 mis9 mis6 mis3 mis
Trwydded gyntaf£35£26.25£17.50£8.75
Ail drwydded£90£67.50£45£22.50

 

Prisiau trwyddedau parth parcio R2 (Ystum Taf)

Mae prisiau trwyddedau ym mharth R2 yn wahanol i barthau eraill oherwydd mai dim ond rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener y mae'n weithredol.

Math12 mis9 mis6 mis3 mis
Trwydded gyntaf£20£15£10£5
Ail drwydded£60£45£30£15


Trwyddedau parcio ymwelwyr ar gyfer parth R2

Gallwch brynu 2 swp o 850 awr. Bydd 1 swp o 850 awr yn costio £30.

 

Faint mae parcio i ymwelwyr?