Mae 3 math o gynllun trwyddedau preswylwyr yng Nghaerdydd.
Darllenwch y telerau ac amodau ar eich trwydded i weld sut y gallwch ei defnyddio i barcio.
Trwyddedau
Gweld gwybodaeth am bob math o gynllun trwydded.
Coch
Os ydych chi'n byw mewn stryd 'goch', cewch barcio mewn:
- mannau trwyddedau i breswylwyr, a
- mannau defnydd a rennir.
Mae hyn yn berthnasol yn y stryd a enwir ar y drwydded yn unig. Ni chewch ddefnyddio'ch trwydded goch i barcio ar unrhyw stryd arall.
Glas
Os ydych yn byw mewn ardal 'glas', mae hyn yn golygu eich bod yn byw mewn ardal parcio â thrwydded nad yw'n rhan o barth.
Ardaloedd parcio â thrwydded yw ffyrdd lle nad oes mannau wedi'u marcio, ond mae arwyddion rheoleiddio mawr ar ddechrau'r ffordd. Bydd angen trwydded ddilys ar unrhyw gerbyd sy'n parcio heibio'r arwyddion hyn.
Gan nad oes marciau ffordd mewn ardaloedd parcio â thrwydded, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar yr arwyddion wrth fynedfa'r ardal barcio i weld pa drwydded y bydd ei hangen arnoch i chi barcio yno.
Mae hyn yn berthnasol i'r ardal parcio â thrwydded a enwir ar y drwydded yn unig. Ni chewch ddefnyddio'ch trwydded las i barcio mewn ardal parcio â thrwydded arall.
Parthau parcio
Os ydych chi'n byw mewn ardal parthau parcio, cewch barcio mewn:
- mannau trwyddedau i breswylwyr,
- mannau i ddeiliaid trwydded yn unig, neu
- mannau defnydd a rennir.
Mae hyn yn berthnasol yn eich parth parcio chi yn unig.
Edrychwch ar arwyddion stryd i gael gwybod:
- pa drwydded sy'n gymwys, ac
- amseroedd y mae cyfyngiadau ar waith.
- Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y parthau parcio.
Ble na allwch chi barcio
Sylwch nad yw trwydded ddilys yn caniatáu i chi barcio:
ar linellau melyn,
mewn mannau llwytho,
mewn mannau anabl (oni bai bod gennych fathodyn glas dilys hefyd),
ar linellau igam-ogam,
lle mae parcio wedi'i atal, nac
yn groes i delerau ac amodau'r drwydded.
