Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Ein cyfrifoldeb am iechyd a lles y cyhoedd

Mae lles yn hawl i bawb ac yn gyfrifoldeb pawb. Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn gyfrifol am gefnogi a diogelu iechyd a lles ei drigolion. Rydym eisiau i bobl y ddinas fyw'n hirach a bod yn hapusach.

Gellir diffinio lles mewn perthynas â'r gwahanol feysydd ym mywyd person, megis:

  • Iechyd corfforol a meddyliol a lles emosiynol
  • Amddiffyn pobl rhag cam-drin ac esgeuluso
  • Addysg, hyfforddiant a hamdden
  • Perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol
  • Y cyfraniad a wneir i gymdeithas
  • Sicrhau hawliau
  • Lles cymdeithasol ac economaidd
  • Llety byw addas


Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014

Fel awdurdod lleol mae'n ddyletswydd arnom i roi'r canlynol i'n trigolion:

  • Gwybodaeth a chyngor defnyddiol, a
  • Chymorth addas yn ôl yr angen

Yn ogystal â chynnig mwy o wybodaeth a chyngor, y nod yw grymuso trigolion i gymryd rheolaeth dros eu hiechyd a'u lles eu hunain.

A phan fo angen cymorth pellach ar drigolion, mae'n rhaid i ni eu cynnwys yn y gwaith o baratoi cynlluniau cymorth a darparu gwasanaethau gofal.


Dewis Cymru

Lluniwyd cyfeirlyfr ar-lein Dewis Cymru i'w gwneud yn haws i unigolion a theuluoedd gael y cymorth y mae ei angen arnynt. Mae'r cyfeirlyfr yn cynnwys rhestr o'r gwasanaethau lles a ddarperir gan sefydliadau gofal cymdeithasol, iechyd a thrydydd sector ledled Cymru.

Gallwch chwilio am wasanaethau a chymorth yn eich ardal drwy ddefnyddio eich cod post neu drwy chwilio am wasanaethau penodol.

Gweithio mewn partneriaeth

Mae Cynllun Lles Caerdydd yn nodi blaenoriaethau'r sector cyhoeddus ar gyfer gweithredu gan ganolbwyntio ar wasanaethau sydd angen gweithio mewn partneriaeth.

Ynghyd â'r Amcanion Lles, mae'r Cynllun yn cynnwys ymrwymiadau neu gamau ymarferol i wella iechyd a lles y bobl sydd mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.


Cynllun Ardal Caerdydd a'r Fro

Mae Cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn cydweithio'n well er mwyn darparu gwasanaethau sy'n bodloni anghenion gofal a chymorth y boblogaeth yn well.

Caiff y gwaith o gyflawni Cynllun Ardal Caerdydd a'r Fro ei arwain gan y Bartneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol dan gyfarwyddyd y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol (BPR).