Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Mynd allan ac o gwmpas

Mae amrywiaeth o ddewisiadau i'ch helpu i fynd allan yng Nghaerdydd fel y gallwch ymweld â gwahanol rannau o'r ddinas a gwneud y gorau o'r gweithgareddau sydd ar gael.

Trafnidiaeth

Mae Traveline Cymru yn cynnig gwybodaeth lawn am drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer mynd o gwmpas Caerdydd, gan gynnwys bysiau a threnau. Mae gwefan Bws Caerdydd yn cynnig gwybodaeth bellach ynglŷn â llwybrau bysus lleol.

Mae gan fysus, trenau a hyd yn oed nifer o dacsis yng Nghaerdydd fynediad isel a chyfleusterau wedi eu llunio i alluogi defnyddwyr cadeiriau olwyn i fynd arnynt yn haws.

Dylech ffonio'r orsaf drenau neu'r maes awyr os oes angen cymorth personol arnoch.

Ewch i Cadw Caerdydd i Symud am wybodaeth ddefnyddiol am y gwahanol ddewisiadau sydd ar gael o gwmpas Caerdydd.

Cerdded a beicio

Mae gan y rhwydwaith cerdded a beicio yng Nghaerdydd lawer o lwybrau, ac mae'n cael ei wella'n barhaol. Gallwch gynllunio eich teithiau cerdded a beicio gyda'r map cerdded a beicio.