Caiff pob person hŷn a pherson anabl deithio ar wasanaethau bws lleol am ddim yng Nghymru.
Gall pobl anabl sydd angen cymorth i deithio hefyd fynd â rhywun gyda nhw am ddim.
Pwy all wneud cais am bàs bws?
Gallwch wneud cais os ydych:
- yn hŷn na 60 oedyn,
- dioddef o anabledd neu anaf sy'n ei gwneud yn anodd iawn i chi gerdded,
- yn fyddar a heb leferyddyn,
- ddall neu'n rhannol ddall,
- yn debygol o gael eich gwrthod am drwydded gyrru Adran 92 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 - onid yw'n ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau neu alcohol yn gyson,
- ni allwch ddefnyddio'r ddwy fraichmae, neu
- gennych anabledd dysgu.
Pa fysus alla i ddefnyddio fy mhàs arnynt?
Gellir defnyddio pasys ar:
- Pob gwasanaeth bws lleol yng Nghymru 7 diwrnod yr wythnos unrhyw adeg o'r dydd.
- Gwasanaethau TrawsCymru.
- Gwasanaeth gwennol X10 Caerdydd i Abertawe.
Ni ellir defnyddio'r pasys i deithio ar y National Express neu'r MegaBus.
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau bws ar gael ar wefan Traveline Cymru.
Mae rhai cynghorau sydd ar y ffin â Lloegr hefyd wedi trefnu i'r pasys fod yn ddilys ar lwybrau i drefi'r gororau.
Sut ydw i'n gwneud cais?
Gwnewch gais ar-lein ar wefan Trafnidiaeth Cymru.
Bydd angen eich rhif yswiriant gwladol arnoch a llun digidol o'ch hun os ydych yn gwneud cais am y tro cyntaf.
I adnewyddu, bydd angen rhif eich pàs bws presennol arnoch.
Os oes angen ffurflen gais bapur arnoch, ffoniwch 0300 303 4240 neu gallwch gael help i wneud cais yn un o'n Hybiau Cynghori.
Colli neu ddwyn pàs
Gofynnwch am bàs newydd gan Trafnidiaeth Cymru.
