Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae Traveline Cymru hefyd yn cynnig gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer mynd a dod yng Nghaerdydd gan gynnwys bysus a threnau.

Tacsis

Mae llawer o safleoedd tacsis o gwmpas canol y ddinas lle gallwch gael tacsi trwyddedig.

Mae tacsis hacni yn ddu a gwyn neu'n debyg i rai Llundain. Mae ganddynt arwydd tacsi ar y to a phlât trwydded ar gefn y cerbyd. Dim ond tacsis hacni y gellir chwifio amdanynt o ochr y ffordd.

Ni ellir chwifio am dacsis llogi preifat ar ochr y ffordd a rhaid eu harchebu ymlaen llaw. Nid oes ganddynt olau ar y to ac mae ganddynt blât trwydded ar gefn y cerbyd.

Cwynion am dacsis

Os ydych chi'n credu eich bod wedi talu gormod am dacsi neu fod ffi wedi cael ei gwrthod, rhowch:

  • rif y gyrrwr/car,
  • y dyddiad a'r amser,
  • y lleoliad, neu
  • fanylion y daith.

Gwneud cwyn

Tocynnau Bws

Bydd yr holl ddinasyddion oedrannus a phobl anabl yn cael teithio am ddim ar wasanaethau bysus lleol ledled Cymru os oes ganddynt docyn dilys.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gallech gael rhagor o wybodaeth am eich opsiynau o ran teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ar wefan Cadw Caerdydd i Symud sydd â thudalennau penodol ar gyfer teithio ar drenau a bysus.

Llochesi Bysus

Rhoi gwybod am loches bws wedi'i difrodi.

Rhowch wybod amdano