Rydyn ni'n awyddus i annog mwy o ddefnydd o gerbydau trydan yn y ddinas ac yn gosod mannau gwefru ledled y ddinas i gefnogi hyn.
Y nod yw rhoi'r hyder i breswylwyr a busnesau fuddsoddi mewn cerbydau trydan pan fyddan nhw'n newid eu ceir.
Mannau gwefru yng Nghaerdydd
Rydyn ni wedi gosod 18 man gwefru ar gyfer cerbydau trydan:
- Treganna,
- Cathays,
- Pen-y-lan,
- Plasnewydd, a
- Glan-yr-afon.
Mae llawer o fathau eraill o fannau gwefru ledled y ddinas hefyd.
Sut i ddefnyddio mannau gwefru cyhoeddus
Mae'r system gwefru cerbydau rydyn ni'n ei chynnig yn cael ei rheoli gan Evolt.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Cebl plwg-i-plwg cytûn. Fel arfer bydd hwn yn dod gyda'ch cerbyd.
Cofrestru ar ap Rhwydwaith Evolt a rhoi eich manylion talu.
Parcio mewn man gwefru
Dim ond i ddefnyddio man gwefru y gallwch barcio yn y lleoedd hyn. Ein nod yw sicrhau bod y lleoedd hyn ar gael.
Amser gwefru
Mae'n cymryd tua 4 i 6 awr i wefru cerbyd trydan cyfartalog yn llawn.
| Math o wefrydd | Amser gwefru ar gyfartaledd |
|---|---|
| Araf | 6 i 8 awr |
| Cyflym | 3 i 4 awr |
| Cyflym iawn | 30 munud |
Talu a chreu cyfrif
Dysgwch sut gallwch chi dalu i ddefnyddio gwahanol fathau o fannau gwefru:
Mannau gwefru cerbydau trydan Evolt
I ddefnyddio mannau gwefru Evolt, cofrestrwch i wefru cyhoeddus Evolt neu gwnewch gais am gerdyn RFID Evolt.
Mae cerdyn RFID yn gerdyn clyfar ffisegol y gallwch ei ddefnyddio i fanteisio ar rai mannau gwefru.
Mae mannau gwefru Evolt o 7kw ac uwch hefyd yn derbyn taliadau digyswllt, ar sail talu wrth fynd.
Dysgwch fwy am ddulliau talu Evolt.
Gallwch hefyd gysylltu â thîm cyswllt Rhwydwaith Evolt i roi gwybod am broblem gyda man gwefru Evolt.
Mannau gwefru eraill
Gallwch hefyd ddefnyddio mannau gwefru eraill, gan ddibynnu ar eu brand. Gallwch wirio'r manylion yma ar arwyddion mewn man gwefru cyhoeddus.
Gallwch wirio brand man gwefru penodol ar wefan Zap Map.
Yna gallwch ddilyn camau i gofrestru i'r rhwydwaith gwefru cerbydau sydd ei angen arnoch.
Os oes nam gyda man gwefru, bydd angen i chi gysylltu â'r darparwr perthnasol sy'n cael ei nodi yno.
Awgrymu lleoliad ar gyfer man gwefru ar y stryd
Gallwch gyflwyno awgrymiadau i ni ar gyfer lleoliadau addas ledled y ddinas.
Rhaid i leoliadau:
bod â phalmentydd llydan,
bod â digon o le parcio cyhoeddus ar gael, a
bod ar strydoedd lle does dim dreifs, garejys preifat na mannau parcio preifat eraill.
Sylwch na allwch chi ofyn am fan gwefru yn union y tu allan i eiddo preswyl.
Byddwn yn adolygu lleoliadau sy'n cael eu hawgrymu ac yn ymgynghori â'r Grid Cenedlaethol.
Defnyddio cerbydau trydan yng Nghaerdydd
Rydyn ni hefyd yn:
sicrhau bod datblygiadau newydd yn cynnwys mannau gwefru,
newid nifer o'n cerbydau fflyd llai am gerbydau trydan, ac yn
bwriadu creu mwy o fannau gwefru ledled y ddinas, gan gynnwys ardaloedd preswyl.
