Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Demensia

Achosir demensia gan glefyd neu anhwylder sy'n effeithio ar yr ymennydd.

Clefyd Alzheimer yw'r math mwyaf cyffredin o ddemensia, ond mae gwahanol fathau - rhai sy'n llawer prinnach nag eraill.

Fel arfer mae symptomau'n cynnwys colli'r cof ac anawsterau wrth feddwl, datrys problemau neu gydag iaith. Maent yn gwaethygu wrth i amser fynd yn ei flaen, gan effeithio hefyd ar hwyliau ac ymddygiad pobl. Gallent ddod yn rhwystredig, pigog, pryderus, trist neu gael eu cynhyrfu'n hawdd.

Effeithir oddeutu 850,000 o bobl yn y DU gan ddemensia. Mae angen cefnogaeth a chymorth arnynt o gyfnodau cynnar y sefyllfa hon sy'n achosi iddynt fod yn agored i niwed.

Os ydych yn bryderus y gallai demensia fod arnoch chi neu ar rywun rydych yn ei adnabod, dylech fynd i'ch meddygfa leol neu cysylltwch â'r Llinell Gymorth Demensia Cenedlaethol ar

0300 222 1122

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddemensia drwy fynd i wefan Caerdydd sy'n Deall Demensia neu wefan y Gymdeithas Alzheimer.