Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Dod yn hunangyflogedig i gynnig gofal a chymorth

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn ofalwr hunangyflogedig neu redeg menter gymunedol i gefnogi pobl hŷn ac anabl, mae Catalyddion Cymunedol yn cynnig cyngor proffesiynol am ddim i'ch helpu i sefydlu eich busnes.

Mathau o ofal a chymorth

Efallai y byddwch yn cynnig help gartref, fel glanhau, coginio, helpu i wisgo a golchi. Neu, gallech gynnig cefnogaeth yn eich cymuned, fel dosbarth ioga cynhwysol, neu sesiynau peintio. Chi biau'r dewis.

Y manteision

  • Gweithio i chi'ch hun a dewis eich oriau eich hun,
  • gweithio yn eich cymuned leol,
  • gosod cyfradd gyflog deg, a
  • helpu eraill a rhoi cymorth y gallwch fod yn falch ohono.

Y gefnogaeth fyddwch chi'n ei chael

Gall Catalyddion Cymunedol eich helpu i:

  • fod yn hyderus eich bod yn dilyn arferion gorau,
  • datblygu eich deunyddiau marchnata,
  • dysgu am gyfleoedd ariannu,
  • teimlo'n rhan o gymuned,
  • cael hyfforddiant sy'n iawn i chi.

Sut i gychwyn arni

Dysgwch fwy am fod yn hunangyflogedig neu sefydlu mentrau yn eich cymuned leol.