Gwasanaeth cymunedol fforddiadwy.
Mae'r gwasanaeth hanfodol hwn yn helpu pobl hŷn ac agored i niwed i fyw'n annibynnol.
Rhoddwn brydau poeth, maethlon i bob math o ddeietau a chyflyrau. Bydd eich aelod tîm Pryd ar Glud yn gweini'ch pryd i chi os hoffech.
Mae ein gyrwyr yn gyfeillgar iawn â'n cleientiaid. Maen nhw'n groesawgar ac yn gyfarwydd, ac mewn rhai achosion maen nhw'n gyswllt i'r byd y tu allan i'r tŷ.
Mae'r gwasanaeth yn cynnig prawf lles i bob cleient ac mae'n cysylltu â Teleofal Caerdydd, y Gwasanaeth Byw'n Annibynnol, Age Connect ac asiantaethau allanol eraill.
Gallwch dalu am eich prydau bwyd drwy ein system dalu ar-lein. I dalu, dewiswch 'Anfoneb Cyfrifon Derbyniadwy' o dan y pennawd 'Taliadau'.
I gael rhagor o wybodaeth am Bryd ar Glud, ewch i wefan Teleofal Caerdydd
