Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Asesiad cymorth ar-lein HoliSARA

Defnyddiwch ein hofferyn hunanasesu ar-lein (HoliSARA) i gael gwybodaeth ddefnyddiol am ffyrdd y gallwch fyw gartref yn annibynnol.

Mae ein hofferyn asesu yn gyflym ac yn hawdd i'w ddefnyddio a gall awgrymu:

  • syniadau ac awgrymiadau ar ffyrdd o wneud eich bywyd yn haws
  • manylion cynhyrchion a allai helpu a ble i'w cael
  • cysylltiadau am fwy o gyngor a chymorth os oes angen

Wrth gwblhau hunanasesiad, bydd angen i chi ddewis pwnc yr hoffech gael help gydag ef ac ateb rhai cwestiynau syml amdanoch chi neu'r person rydych yn ei gwblhau ar ei ran.

Cael hunanasesiad HoliSARA

Fel arall, os byddai'n well gennych drafod cymorth gartref gydag aelod o'n tîm, gallwch gael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth drwy ffonio 029 2023 4234.