Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Byw bywyd iachach

Gall peidio â byw bywyd iach gael effaith sylweddol ar eich lles corfforol a meddyliol. Gall deiet da wedi'i gyfuno â gweithgarwch corfforol rheolaidd a defnyddio llai ar dybaco ac alcohol eich helpu i fyw bywyd iach a rhoi hwb i'ch lles meddyliol ac emosiynol.

Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd gwyrddaf yn y DU diolch i'w pharciau a mannau gwyrddion niferus, sy'n cwmpasu tua 10% o'r ddinas. Mae'r ddinas hefyd yn enwog am ei chanolfannau a chyfleusterau chwaraeon penigamp.

Mae ein parciau lleol a chanolfannau hamdden yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a chyfleusterau i bawb o bob oedran i'ch helpu i ddod yn actif.

Yma mae modd cael gwybodaeth, cyngor a chymorth mewn cysylltiad ag ysmygu, alcohol a sylweddau eraill.

Os oes angen help a chyngor arnoch i wella eich ffordd o fyw ewch i wefan Galw Iechyd Cymru i gael gwybodaeth, cyngor ac wgrymiadau. Gallwch hefyd drefnu apwyntiad gyda'ch Meddyg Teulu.

Gwybodaeth am wasanaethau a chymorth sydd ar gael yn lleol i'ch helpu i fyw bywyd iachach.