Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Rhoi'r gorau i ysmygu

Boed hynny am resymau'n ymwneud â'ch iechyd neu i arbed arian, byddai'r rhan fwyaf o ysmygwyr yn dymuno rhoi'r gorau iddi.

Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn cynnwys llawer o fanteision gan gynnwys:

  • llai o risg o gael canser, clefyd y galon a'r ysgyfaint,
  • gwella iechyd yn gyffredinol, a
  • gwella lefelau ffrwythlondeb.

Byddwch yn teimlo'r manteision o stopio 'smygu yn syth. Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl:

  • 8 awr - Bydd lefelau'r nicotin a charbon monocsid yn eich gwaed wedi lleihau gan 50%. Bydd eich lefelau ocsigen yn normal eto.
  • 24 awr - Bydd carbon monocsid yn gadael y corff, bydd yr ysgyfaint yn dechrau gwaredu llysnafedd a gweddillion eraill sydd ynghlwm wrth ysmygu.
  • 48 awr - Does dim nicotin ar ôl yn y corff a byddwch yn gallu blasu a gwynto'n llawer gwell.
  • 72 awr - Byddwch yn ei chael hi'n haws i anadlu. Bydd y tiwbiau bronciol yn dechrau ymlacio a bydd eich lefelau egni'n cynyddu.
  • 2-12 wythnos - Cylchrediad gwell.
  • 3-9 mis - Bydd problemau tagu, gwichian ac anadlu yn gwella wrth i swyddogaeth yr ysgyfaint gynyddu gan hyd at 10%.
  • Blwyddyn - Bydd y risg o gael trawiad ar y galon yn hanner o'i gymharu â rhywun sy'n 'smygu.
  • 10 mlynedd - Bydd y risg o ganser ar yr ysgyfaint yn hanner o'i gymharu â rhywun sy'n 'smygu.
  • 15 mlynedd - Risg o gael trawiad ar y galon yr un peth â rhywun sydd heb 'smygu erioed.

Mae plant sydd â rhieni nad ydynt yn ysmygu yn llai tebygol o ddioddef broncitis, niwmonia, asthma, llid yr ymennydd a haint yn y glust.

Pa gymorth sydd ar gael?

Os hoffech roi'r gorau i ysmygu, gallwch lwyddo gyda help gan eich meddyg teulu neu Helpa Fi i Stopio.

Mae Helpa Fi i Stopio yn wasanaeth GIG am ddim a ariennir ac a redir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r gwasanaeth yn cynnig cyngor a gwasanaethau i ddiogelu a gwella iechyd a lles pobl yng Nghymru.

0800 085 2219

Chwilio am wybodaeth a chymorth yng Nghaerdydd i'ch helpu i roi'r gorau i ysmygu.