Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Alcohol a chyffuriau

Mae yfed mwy na'r hyn a argymhellir yn effeithio ar eich iau afu, stumog a chalon ac yn cynyddu eich siawns o gael canser, trawiad ar y galon a phroblemau o ran ffrwythlondeb.

Os hoffech siarad â rhywun am alcohol neu gyffuriau, un ai ar eich rhan eich hun neu er mwyn helpu rhywun agos, mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael yng Nghaerdydd.

Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd

Mae TAChC (Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd) yn cynnig help ymarferol, cyfarwyddyd, gwasanaeth cwnsela a gofal cymdeithasol i bobl y mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio ar eu bywydau.

Mae tîm gwaith cymdeithasol TAChC yn gweithio gydag unigolion i nodi ac asesu eu hanghenion, gan awgrymu a chynnig cyngor o ran unrhyw wasanaethau priodol sydd ar gael.

Mae tîm TAChC hefyd yn cynnig cwnsela ar sail un wrth un.

029 2078 8300

Chwiliwch am wybodaeth am wasanaethau a chymorth i bobl y mae alcohol a chyffuriau yn effeithio arnynt yng Nghaerdydd.