Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Tai a digartrefedd

Darganfyddwch pa gymorth sydd ar gael i'ch helpu gyda materion tai a digartrefedd.

Ydych chi'n cael trafferth talu eich rhent?

Os ydych chi'n cael trafferth talu'ch rhent, gall Cyngor Ariannol eich arwain ar yr opsiwn gorau i chi.

Gallwch gysylltu ar 029 2087 1071 neu lenwi ffurflen ymholiad i gael cyngor ar rent.

Ydych chi'n cael trafferth talu eich morgais?

Os ydych chi'n berchennog tŷ, efallai y gallwch gael cymorth tuag at daliadau llog ar:

  • eich morgais, neu
  • benthyciadau rydych chi wedi'u cymryd ar gyfer atgyweiriadau a gwelliannau i'ch cartref.

Yr enw ar hyn yw Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais. Sylwch mai benthyciad yw hwn. Bydd angen i chi dalu hyn yn ôl.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys a sut i wneud cais am Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais.

Os ydych mewn dyled, gallwch ffonio ein tîm morgeisiau a dyledion ar 029 2057 0750.

Digartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref

Os ydych chi'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, gallwch gysylltu â'n Canolfan Dewisiadau Tai ar 029 2057 0715 i gael cymorth a chyngor.