Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Costau addysg ac ysgol

Mynnwch gymorth ariannol os oes gennych blant yn yr ysgol.

Grant Hanfodion Ysgol

Os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau, gallech gael cymorth tuag at gost gwisg ysgol a chyflenwadau ysgol i'ch plentyn.

Bydd gennych hawl i daliad o £125 os yw'ch plentyn yn:

  • mynychu ysgol gynradd a gynhelir,
  • mynychu ysgol uwchradd a gynhelir,
  • 4 i 15 oed mewn ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion arbennig neu uned cyfeirio disgyblion.

Os yw'ch plentyn yn dechrau blwyddyn 7, byddwch yn cael £200.

Mae'r grant hefyd ar gael i unrhyw blentyn sy'n derbyn gofal sy'n mynychu ysgol yng Nghaerdydd.

Gwneud cais am y Grant Hanfodion Ysgol.

Prydau ysgol am ddim

Gall disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd gael prydau ysgol am ddim os yw eu teulu'n derbyn budd-daliadau penodol.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim .

Trafnidiaeth ysgol am ddim

Gall disgyblion cynradd ac uwchradd gael trafnidiaeth am ddim i'r ysgol os ydych yn byw pellter penodol i ffwrdd o'r ysgol.

Darganfyddwch a yw eich plentyn yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Os ydych ar incwm isel ac mae'ch plentyn rhwng 16 a 18 oed ac yn dal i fod mewn addysg, efallai y bydd yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Bydd y taliad hwn yn cael ei wneud yn uniongyrchol i'ch plentyn i helpu tuag at gostau ysgol.

Darganfyddwch a yw'ch plentyn yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

Educational Trusts' Forum

Mae'r Educational Trusts' Forum yn elusen sy'n darparu grantiau i deuluoedd sy'n wynebu anawsterau ac a allai fod yn cael trafferth talu costau ysgol.

Dysgwch fwy a sut i wneud cais am grantiau costau ysgol .