Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Iechyd a lles

Dysgwch am yr ystod o gymorth sydd ar gael i'ch cadw'n iach a helpu gyda'ch iechyd meddwl a'ch lles.

Cymorth gyda thriniaeth y GIG

Dod o hyd i gymorth i dalu costau'r GIG.


Cymorth i dalu costau'r GIG

Efallai y byddwch yn gallu cael profion llygaid am ddim, triniaeth ddeintyddol a chymorth gyda chostau eraill y GIG os ydych:

  • yn 16 oed neu hŷn,
  • ar incwm isel,
  • yn cael budd-daliadau penodol,
  • yn feichiog,
  • wedi cael diagnosis o gyflwr meddygol.

Darganfyddwch a allwch chi gael cymorth gyda chostau'r GIG.


Cymorth i dalu costau teithio'r GIG

Os ydych o dan ofal meddyg ymgynghorol ac angen teithio i dderbyn triniaeth y GIG, efallai y gallwch gael cymorth i dalu am eich costau teithio.

Darganfyddwch a allwch chi gael cymorth gyda chostau teithio'r GIG.


Cymorth iechyd meddwl a lles

Dewch o hyd i gyngor a chefnogaeth gyda'ch iechyd meddwl a'ch lles.

Gwasanaeth Cymorth Lles Hyb

Gallwch gael cymorth gyda'ch iechyd meddwl a'ch lles gan ein Hybiau. Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a gwasanaethau i'ch helpu.

Ewch i'ch Hyb lleol i gael cymorth.


Dewis Cymru

Os hoffech ddod o hyd i gyngor neu grŵp cymorth lles yn eich ardal, mae gan Dewis Cymru adnoddau defnyddiol i'ch cefnogi.

Dysgwch sut y gall Dewis Cymru eich cefnogi.


Mind Cymru

Os ydych chi'n cael problem gyda'ch iechyd meddwl ac mae angen cymorth arnoch, gall Mind ddarparu cyngor a gwasanaethau am ddim i'ch helpu.

Dod o hyd i'ch Mind lleol a chael cymorth.


Llinell gymorth CALL

Os hoffech chi siarad â rhywun am eich iechyd meddwl, mae CALL yn llinell gymorth a gwasanaeth testun am ddim sy'n rhoi cyngor i gefnogi eich lles.

Dysgwch sut y gall CALL eich cefnogi chi.