Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cymorth i gyn-filwyr

Darganfyddwch pa gymorth sydd ar gael i gyn-filwyr.

Tîm Cyn-filwyr

Os ydych chi'n gyn-filwr neu'n gwasanaethu ym mhersonél y Lluoedd Arfog, gallwn eich helpu chi a'ch teulu gyda materion fel:

  • tai,
  • cyflogaeth
  • budd-daliadau,
  • dyled.

Ffoniwch ein harbenigwyr cyngor Cyn-filwyr ar 029 2087 1071 neu e-bostiwch [email protected]

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Gall y Lleng Brydeinig Frenhinol gefnogi pobl sydd yn y lleng ar hyn o bryd a phobl oedd yn arfer bod yn y lleng, a'u teuluoedd, sy'n dioddef yn ariannol. Gallant hefyd helpu'r rhai y mae angen cymorth brys arnynt gydag argyfwng dros dro, fel digartrefedd.

Ffoniwch 0808 802 8080 i gael rhagor o wybodaeth.

Change Step

Mae Change Step yn wasanaeth cymorth a ddarperir gan gyn-filwyr, ar gyfer cyn-filwyr. Gallant gynnig gwasanaeth mentora cymheiriaid a chymorth i ddefnyddio gwasanaethau gan gynnwys:

  • cymorth gydag iechyd meddwl,
  • cymorth gyda chamddefnyddio sylweddau,
  • cyfiawnder troseddol,
  • cyngor ar dai.

Ffoniwch 0300 777 2259 i gael rhagor o wybodaeth.