Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Hawlio budd-daliadau

Darganfyddwch pa gymorth ariannol y mae gennych hawl iddo.Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ar gael ar wefan Cyngor Ariannol.

Cyfrifiannell budd-daliadau

Bydd ein cyfrifiannell budd-daliadau yn eich helpu i ddarganfod pa fudd-daliadau a grantiau y gallwch eu hawlio.

Help gyda'ch treth gyngor

Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i hawlio gostyngiad y dreth gyngor.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys a gwneud cais ar gyfer gostyngiad treth gyngor.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad ar eich treth gyngor. Mae'r gostyngiadau'n cynnwys:

  • gostyngiad person anabl,
  • eithriad myfyrwyr,
  • gostyngiad person sengl.

Gweler pa ostyngiadau y dreth gyngor sydd ar gael a sut i wneud cais.

Help gyda'ch rhent

Os ydych o oedran gweithio ac ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Gallech fod yn gymwys i gael budd-dal tai os:

  • ydych chi a'ch partner o oedran pensiwn, neu
  • rydych chi'n aros mewn lloches, hostel neu rai tai â chymorth neu dros dro.

Os oes angen cyngor arnoch ar hawlio cymorth gyda'ch rhent, cysylltwch â ni ar 029 2087 1071 neu dewch draw i'ch canolfan leol.

Cymorth budd-dal anabledd

Gall ein tîm cymorth budd-dal anabledd eich helpu chi a'ch teulu os hoffech wneud cais am fudd-daliadau fel:

  • Lwfans Byw i'r Anabl,
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol,
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh)
  • Credyd Cynhwysol (gallu cyfyngedig i gyflawni gwaith),
  • Lwfans Gweini, a
  • Lwfans Gofalwr.

Os yw eich cais wedi'i wrthod, gallwn hefyd eich cefnogi i ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried eich cais a chymryd apeliadau i'r Tribiwnlys, os yw'n briodol.

Gallwn eich helpu dros y ffôn neu gallwn drefnu apwyntiad fel y gallwch ein gweld yn bersonol yn ein Hybiau.

Cysylltwch â ni ar 02920 871 071 neu e-bostiwch [email protected] .