Dewch o hyd i fannau cynnes, cwmni, prydau bwyd am ddim a bwyd i'ch cadw chi a'ch teulu yn gynnes ac yn ddiogel.
Mannau cynnes
Mae ein Hybiau a phartneriaid eraill ar agor i chi.
Cymorth bywd
Gallwch ddefnyddio ein map rhyngweithiol i ddod o hyd i bantrïoedd, banciau bwyd, ac oergelloedd cymunedol yn eich ardal.
Cymorth brys am fwyd
Os oes angen bwyd arnoch ar frys, gall ein Tîm Cyngor Ariannol, Hybiau a Llinell Gynghori roi talebau am fwyd brys.
Ffoniwch 029 2087 1071 neu ewch i'ch Hyb lleol.
Taliad DAF Cymorth Brys
Grant yw'r taliad Cymorth Brys i helpu i dalu costau hanfodol, fel bwyd, os ydych:
- yn profi caledi ariannol eithafol
- wedi colli'ch swydd
- wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf
Gallwch wneud cais am y Gronfa Cymorth Brys ar-lein neu drwy ffonio 029 2087 1071.
Prydau Ysgol Am Ddim
Bydd disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael prydau ysgol am ddim os yw eu teulu'n derbyn budd-daliadau penodol.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys a sut i wneud cais am brydau ysgol am ddim.
