Cymorth i ddod o hyd i swydd, hyfforddiant a chyfleoedd i wella eich sgiliau.
Swyddi gyda ni
Rydym yn cynnig cyfleoedd i gefnogi cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Gyda chyflogau cystadleuol a mynediad i addysg.
Darganfyddwch pa swyddi gwag sydd ar gael gyda Chyngor Caerdydd a sut y gallwch wneud cais.
GOV.UK Dod o hyd i Wasanaeth Gwaith
Os ydych chi'n chwilio am swydd, mae gwefan Gov UK yn dangos yr holl swyddi gwag sydd yn eich ardal leol.
Darganfyddwch pa swyddi sydd ar gael yn eich ardal chi.
Caerdydd ar Waith
Os ydych yn chwilio am waith dros dro i gael profiad a gwella'ch sgiliau, mae Caerdydd ar Waith yn hysbysebu swyddi byrdymor sydd ar gael ar draws adrannau'r cyngor.
Dysgwch sut y gallwch wneud cais am swydd dros dro gyda ni.
Y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith
Os oes angen cymorth arnoch i ddod o hyd i swydd, neu'n dymuno datblygu eich sgiliau proffesiynol, gall ein Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith eich helpu gyda:
- ysgrifennu CVs a cheisiadau am swyddi,
- dod o hyd i swyddi, lleoliadau a chyfleoedd gwirfoddoli,
- ffug gyfweliadau,
- dod o hyd i gyrsiau a hyfforddiant addas.
Dysgwch sut y gall ein Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith eich helpu.
Cyngor Ariannol Caerdydd
Os ydych wedi dod yn ddi-waith yn ddiweddar ac yn poeni am arian, mae Cyngor Ariannol Caerdydd yn rhoi gwybodaeth am ba fudd-daliadau y gallech eu cael. Gallant hefyd roi cymorth i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith.
Dysgwch sut y gall Cyngor Ariannol Caerdydd eich cefnogi.
Dysgu Oedolion Caerdydd
Os hoffech fynediad at addysg a hyfforddiant, mae gan Dysgu Oedolion Caerdydd ystod o gyrsiau a all helpu i ddatblygu eich sgiliau.
Mae'r cyrsiau'n hyblyg ac yn croesawu dysgwyr o bob gallu.
Dewch o hyd i gwrs dysgu gyda Dysgu Oedolion Caerdydd .
Gyrfa Cymru
P'un a ydych am ddod o hyd i arweiniad gyrfa, cyrsiau hyfforddi neu brentisiaethau, mae gan Gyrfa Cymru nifer o wasanaethau ac adnoddau i helpu i ddatblygu eich sgiliau.
Dysgwch sut y gall Gyrfa Cymru eich helpu chi.
ReAct Plws
Os ydych yn ddi-waith neu'n cael trafferth mynd i mewn i waith, gall ReAct Plws ddarparu cymorth wedi'i deilwra i'ch helpu i ddod o hyd i swydd. Efallai y byddwch yn gallu cael:
- grantiau ariannol a gofal plant,
- mynediad i addysg a hyfforddiant,
- mentor i gefnogi gyda phrofiad gwaith.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys ar gyfer ReAct Plws.
