Mae'r adran hon yn rhoi trosolwg o'r cynlluniau grantiau y mae Cyngor Dinas Caerdydd yn eu gweinyddu ar hyn o bryd sydd ar gael i sefydliadau'r Trydydd Sector, gan gynnwys grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol.
Cronfa Deddf Eglwysi Cymru
Mae Cronfa Deddf Eglwysi Cymru yn ymddiriedolaeth elusennol sy'n annibynnol ar y Cyngor. Ei nod yw rhoi grantiau dyngarol ar gyfer amrywiaeth eang o ddibenion megis:
- Addysg: buddion nad ydynt ar gael yn rhwydd gan ffynonellau eraill.
- Cymorth gyda salwch: cymorth pan nad yw help o'r fath ar gael yn rhwydd gan ffynonellau eraill.
- Cymorth gydag angen: cymorth cyffredinol pan fo angen, caledi neu ofid.
- Llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau celf ac ati, sy'n gwella'r gwerthfawrogiad o gelfyddydau a llenyddiaeth Gymraeg yn gyffredinol.
- Cyfleusterau cymdeithasol a hamddenol yn gyffredinol.
- Amddiffyn adeiladau hanesyddol: cynyddu diddordeb ym mhensaernïaeth Cymru, hanes a gwyddoniaeth yn gyffredinol, er budd pobl Cymru.
- Ymchwil a thriniaeth feddygol a chymdeithasol ac ati.
- Cyfnod prawf: Cymorth i bobl sydd ar gyfnod prawf, neu eu teuluoedd.
- Cymorth i bobl ddall neu'r henoed.
- Addoldai a chladdfeydd: gwaith adfer a chynnal a chadw.
- Argyfyngau neu gymorth gyda thrychinebau.
- Dibenion elusennol eraill, sy'n gyson â'r uchod.
Gweinyddir y gronfa gan Gyngor Bro Morgannwg, ond rhaid i geisiadau ar gyfer projectau sy'n seiliedig yng Nghaerdydd gael eu cyflwyno i Gyngor Caerdydd. Cysylltwch â ni i gael manylion pellach ynghylch y gronfa a'r meini prawf cymhwyster.
Ar gyfer ceisiadau gan sefydliadau ym Mro Morgannwg, ewch eu gwefan.
Cysylltwch â ni
Os ydych am gysylltu â ni ynghylch unrhyw un o'r cynlluniau grantiau, defnyddiwch y manylion cyswllt perthnasol.
Swyddog Grantiau Corfforaethol
Cymunedau
Blwch SP 335
Caerdydd
CF11 1FP
029 2053 7484
