Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Biliau cartref ac ynni

Gallwch chi ddod o hyd i gymorth os ydych yn cael trafferth oherwydd costau byw cynyddol.

Cymorth i dalu eich biliau ynni

Gallwch ddarganfod pa gymorth y gallech ei gael i helpu i dalu eich biliau ynni.
 

Taliad Tanwydd Gaeaf

Os cawsoch eich geni cyn 28 Mehefin 1960, gallech gael Taliad Tanwydd y Gaeaf. Mae hwn yn daliad o £100 i £300 i helpu tuag at eich biliau ynni.

Os ydych chi'n gymwys, byddwch yn derbyn llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd ac yn cael taliad ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr.

Gallwch ddysgu mwy am y Taliad Tanwydd Gaeaf ar wefan GOV UK.
 

Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes​​

​Gallech gael y Gostyngiad Cartref Cynnes os ydych:

  • ar incwm isel, neu
  • yn cael elfen Credyd Gwarant Credyd Cynhwysol. 

Nid oes angen i chi wneud cais. Os ydych yn gymwys, bydd eich darparwr ynni yn rhoi gostyngiad o £150 yn awtomatig ar eich bil.  Gostyngiad untro fydd hwn.  

Gallwch ddysgu mwy am y gostyngiad cartref cynnes​ ar wefan GOV UK.

Gwasanaethau cyngor ar ynni

Mae llawer o wasanaethau sy'n rhoi cyngor am ddim ar effeithlonrwydd ynni a rheoli eich biliau ynni.
 

Y Gwasanaeth Cyngor Ariannol

Gall ein Tîm Cyngor Ariannol gynnig cymorth a chyngor i chi ar reoli eich biliau ynni.

Os ydych yn cael trafferth rhoi credyd ar eich mesurydd ynni talu ymlaen llaw, gallech dderbyn talebau tanwydd.

Gallwch ffonio, e-bostio neu ymweld â Hyb lleol i gael cyngor.

Ffôn: 029 2087 1071

E-bost: [email protected]
 

Canolfan Cyngor ar Bopeth

Gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi am:

  • costau byw,
  • grantiau a budd-daliadau i helpu i dalu eich bil ynni,
  • y dreth gyngor,
  • budd-daliadau, a
  • darllen eich mesurydd trydan clyfar.

I gael help, gallwch ddod o hyd i'ch canolfan galw heibio Cyngor ar Bopeth leol neu ffonio.

Ffôn: 080 8278 7925
 

Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth

Mae'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth yn darparu cymorth ychwanegol i unrhyw un sy'n cael ei ystyried yn agored i niwed. Gallan nhw ddarparu gwasanaethau blaenoriaeth i chi os ydych chi'n profi toriad pŵer.

Gallan nhw hefyd roi cyngor am ddim i chi am reoli biliau fel:

  • nwy,
  • trydan, a
  • dŵr.

Gallwch ddysgu mwy am y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth.
 

Cymru Gynnes

Mae Cymru Gynnes yn gweithio gyda gwahanol wasanaethau i sicrhau bod cartrefi'n gynnes ac yn ddiogel. Gallan nhw roi cyngor am ddim i chi ynghylch:

  • ynni,
  • biliau dŵr,
  • gwres,
  • cofrestru â'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth, a
  • mesurau diogelwch yn eich cartref.

Gallwch gael cyngor drwy lenwi ffurflen atgyfeirioneu drwy ffonio.

Ffôn: 080 0091 1786
 

Gofal a Thrwsio

Gall Gofal a Thrwsio gynnig cyngor am ddim i chi am effeithlonrwydd ynni os ydych:

  • yn 60 oed neu hŷn
  • yn berchen ar eich cartref neu'n rhentu'n breifat.

Gallwch wneud cais am asesiad drwy ffonio neu e-bostio.

Tel: 029 2047 3337

E-bost:

[email protected]

Gweithredu Ynni Cenedlaethol (GYC)

Gallan GYC roi cyngor am ddim i chi ynghylch:

  • biliau ynni,
  • cadw'ch cartref yn gynnes,
  • dyled tanwydd,
  • newid cyflenwyr ynni, a
  • dod o hyd i gymorth i wneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon.

Gallwch gael cymorth drwy lenwi ffurflen atgyfeirio , neu drwy ffonio.

Ffôn: 080 0304 7159

Dŵr Cymru

Os ydych yn cael trafferth talu eich biliau dŵr, efallai y bydd Dŵr Cymru yn gallu eich helpu. Dysgwch sut y gall Dŵr Cymru eich helpu a'ch cynorthwyo.
 

Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Gall yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni roi cyngor am ddim i chi ar effeithlonrwydd ynni a sut i arbed arian ar filiau. Gallwch weld mwy ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.
 

Cronfa Cymorth Dewisol (CCD)

Gallech gael grant DAF i'ch helpu i dalu eich biliau ynni os:

  • ydych chi wedi colli'ch swydd
  • ydych chi'n profi caledi ariannol, neu
  • wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf.

Mae'r Gronfa hon yn cynnig dau fath o grant:

  • Taliad Cymorth Brys,
  • Taliad Cymorth Unigol.

Gallwch chi ddysgu mwy am y DAF ar wefan Llywodraeth Cymru.
 

Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (GCT)

Mae GCT yn elusen gymunedol a all roi cyngor am ddim i chi am:

  • rheoli eich biliau ynni,
  • budd-daliadau,
  • grantiau ar gyfer eitemau cartref, a
  • cael mynediad at wasanaethau, fel cyngor ar ddyledion.

Gallwch ddysgu mwy ar wefan GCT, neu drwy eu ffonio.

Ffôn: 029 2000 3132
 

Cyngor Glan-yr-afon Caerdydd

Gall Cyngor Glan-yr-afon roi cyngor am ddim i chi ynghylch:

  • effeithlonrwydd ynni,
  • dyled,
  • budd-daliadau, a
  • tai.

Gallwch gael help drwy ffonio neu ffonio i mewn i'w swyddfa.

Ffôn: 029 2034 1577

41A Heol Isaf y Gadeirlan

Glan-yr-afon

Caerdydd

CF11 6LW

Pecynnau band eang a ffôn

Os ydych yn hawlio budd-daliadau penodol, gallech gael tariffau cymdeithasol.

Gweld a allai'r tariff cymdeithasoleich helpu chi.

Newidiadau ar gyfer eiddo gyda Mesuryddion Gwasanaeth Radio Teleswitch

Mae Gwasanaeth Radio Teleswitch (RTS) yn system sy'n dweud wrth fesuryddion trydan hŷn pryd i newid rhwng cyfraddau brig ac allfrig ar gyfer tariffau trydan. Mae'r system RTS wedi cyrraedd diwedd ei defnydd a bydd y signal yn cael ei ddiffodd ar 30 Mehefin 2025.

Os oes gennych fesurydd RTS, dylai eich cyflenwr ynni fod wedi cysylltu â chi ynglŷn â'i ddisodli.

Os ydych yn credu bod gennych fesurydd RTS, cysylltwch â'ch cyflenwr ynni ar unwaith. Byddant yn disodli'r mesurydd trydan gyda mesurydd deallus cyn y dyddiad cau.

Gall y mesuryddion hyn fod yn anodd eu gweld, mae'n debygol bod gennych fesurydd RTS os:

  • nad oes cyflenwad nwy yn eich ardal, gan gynnwys blociau fflatiau uchel ac eiddo mewn ardaloedd gwledig,
  • mae gennych dariff rhatach ar wahanol adegau o'r dydd, er enghraifft,  Economi 7,  Economi 10 a Total Heat Total Control,
  • mae eich eiddo yn cael ei wresogi gan ddefnyddio gwresogyddion storio neu drydan, neu
  • mae gan eich eiddo flwch switsh ar wahân wrth ymyl y mesurydd gyda label RTS arno (ni fydd gan bob eiddo hyn).

Os nad ydych yn disodli'ch mesurydd RTS, efallai y byddwch yn profi'r canlynol:

  • colli gwres a dŵr poeth yn llwyr,
  • gwres neu ddŵr poeth yn troi ymlaen yn awtomatig ac yn peidio â diffodd, neu
  • cynnydd posibl yn eich biliau ynni os na all eich cyflenwr gadarnhau eich defnydd o ynni.

Gallwch gael gwybod mwy am ddisodli eich mesurydd RTS ar wefan Ofgem.