Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Hybysiadau preifatrwydd Banc Bwyd Caerdydd Trussell Trust

Bydd yr asiantaeth atgyfeirio (Cyngor Caerdydd) yn prosesu'r data fel sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni budd y cyhoedd dan Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU.

Mae banciau bwyd yn defnyddio'r wybodaeth bersonol sy'n cael ei rhannu dan y cytundeb hwn i ddarparu darpariaeth fwyd frys i gleientiaid sydd mewn argyfwng ac sydd wedi cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth gan Gyngor Caerdydd. Mae'r data personol yn cael ei rannu drwy feddalwedd berchnogol sy'n eiddo i The Trussell Trust sy'n gweithredu fel rheolydd data ar wahân i Fanc Bwyd Caerdydd. Mae'r 'System Casglu Data' (SCD) yn rhaglen cwmwl sy'n cael ei defnyddio i brosesu data personol am gleientiaid sy'n defnyddio gwasanaeth banc bwyd.

I gael mwy o wybodaeth am sut mae Trussell Trust yn prosesu eich data, ewch i yr wefan.