Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes yn rhan o Gyngor Caerdydd, sef Rheolydd y Data at ddibenion y data a gesglir. Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae ein sefydliad yn defnyddio data personol.
Pa ddata rydym yn ei gasglu?
Gall y Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes gael y categorïau canlynol o'ch data personol ar gyfer:
- Plant a Phobl ifanc (ac Oedolion mewn rhai achosion)
Categorïau cyffredinol:
- Gwybodaeth bersonol ar unwaith e.e. enw llawn, dyddiad geni, rhywedd, ac ati
- Manylion cyswllt, e.e. cyfeiriad, ac ati
- Data demograffig, e.e., Ethnigrwydd, Iaith Gyntaf, ac ati
- Cofnodion addysg
- Cofnodion meddygol lle bo hynny'n berthnasol i leoliad ysgol ac / neu Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) / Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- Cofnodion Gofal Cymdeithasol ac Iechyd lle bo'n berthnasol i leoliad ysgol a /neu AAA / ADY, ynghyd â diogelu a lles disgyblion
Is-gategorïau:
- Manylion Rhieni / Gofalwyr / Ymgeisydd (gan gynnwys unrhyw berthnasau a / neu bersonau â chyfrifoldeb cyfreithiol dros blant a phobl ifanc)
- Cyrhaeddiad yn yr Ysgol
- Presenoldeb yn yr Ysgol
- Gwaharddiadau Ysgol
- Gwybodaeth am Hanes yn yr Ysgol
- AAA / ADY
- Y cofnodion a ystyrir yn berthnasol i dderbyn plentyn i Ysgol a / neu leoliad addysgol
- Cofnodion sy'n cael eu hystyried yn berthnasol i Arlwyo, Addysg Ddewisol yn y Cartref (ADdC), Llywodraethwyr (fel rhan o SLA Ar-lein), Gwasanaeth i Mewn i Waith, Gwasanaeth Cerdd, FyMhryder/MyConcern (mewn perthynas ag unrhyw bryderon diogelu a lles a godir ynghylch disgyblion, e.e. bwlio, ac ati...), Cludiant Teithwyr, SLA Ar-lein (ar gyfer staff ysgolion), a / neu'r Gwasanaeth Ieuenctid
- Nodweddion Agored i Niwed, e.e. Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), Prydau Ysgol am Ddim (PYADd), Ceiswyr lloches, Teithwyr, Cymraeg/Saesneg fel iaith ychwanegol (C/SIA), Plant y Lluoedd Arfog, Gofalwyr Ifanc ac ati
Sut rydym yn casglu eich data?
Rydych yn darparu'r rhan fwyaf o'r data rydyn ni'n ei gasglu yn uniongyrchol i'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes . Rydym yn cyrchu, yn casglu ac yn prosesu data o'r canlynol:
- 127 o Ysgolion a Gynhelir gan Gyngor Caerdydd ac Uned Cyfeirio Disgyblion
- Gwasanaeth Budd-daliadau (mewn perthynas â PYADd)
- Cofrestriadau Geni
- Blynyddoedd Cynnar (gan gynnwys Dechrau'n Deg)
- Y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a Theithwyr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- Gwasanaethau Plant (lle bo angen)
- Clearsprings Ready Homes Ltd (mewn perthynas â Cheiswyr Lloches)
- Addysgu yn y Gymuned
- Cysylltu â Chaerdydd (C2C)
- Treth Gyngor
- Gwasanaeth Lles Addysg (GLlA)
- Addysg Ddewisol yn y Cartref (ADdC)
- Gwasanaethau Llywodraethwyr
- Gwasanaeth Cynhwysiant (gan gynnwys AAA / ADY)
- Gwasanaeth i Mewn i Waith
- Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal
- Awdurdodau Lleol ac Ysgolion eraill a / neu leoliadau addysgol sy'n rhan o hanes addysgol eich plentyn
- Gwasanaethau Cludiant Teithwyr
- Derbyn i Ysgolion
- Ysgolion a lleoliadau addysgol yn Ninas Caerdydd
- Ysgolion a lleoliadau addysgol y tu allan i Gaerdydd ond sy'n berthnasol wrth ffurfio hanes addysgol eich plentyn (e.e. Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol ac AAA / ADY)
- Rhaglen Trefniadaeth Ysgolion
- Gwasanaethau i Ysgolion
- SLA Ar-lein
- Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
- Gwasanaeth Ieuenctid
- Ffurflenni Data Statudol Addysg ac ysgolion Llywodraeth Cymru
Sut byddwn yn defnyddio eich data?
Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes yn defnyddio'r wybodaeth i gyflawni ei Gweledigaeth 10 mlynedd ar gyfer Addysg yn y Brifddinas, ynghyd â sicrhau cyfranogiad, diogelwch a lles ein disgyblion yn ogystal â dadansoddiadau cyllidebu, ariannu, grantiau, data ac ystadegol mewn perthynas â'r Gyfarwyddiaeth Addysg, ein Hysgolion a'n disgyblion.
Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes yn casglu eich data a'ch gwybodaeth at ddiben darparu'r gwasanaethau, y gefnogaeth, a'r hyfforddiant canlynol ynghyd â chydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol megis Ffurflenni Data Statudol Llywodraeth Cymru:
- Addewid Caerdydd
- Dinas sy'n Dda i Blant
- Tiwtora yn y Gymuned
- Addysg Heblaw am yn yr Ysgol
- Lles Addysg
- Lleiafrifoedd Ethnig a Theithwyr
- Addysg Ddewisol yn y Cartref
- Gwasanaethau Ymgysylltu
- Gwasanaethau Llywodraethwyr
- Ysgolion Iach
- Cynhwysiant, sy'n cynnwys:
- Cymorth Awtistiaeth
- Anghenion Dysgu Cymhleth
- Blynyddoedd Cynnar ac Anabledd
- Seicoleg Addysg
- Iechyd a Lles Emosiynol
- Nam ar y Clyw
- Monitro Cynllunio ac Adolygu
- Anghenion Dysgu Ychwanegol / Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Lleferydd ac Iaith
- Nam Gweld ac Amlsynhwyraidd
- Gwasanaeth i Mewn i Waith
- Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal
- Perfformio a Llywodraethu
- Gwasanaethau i Ysgolion, sy'n cynnwys:
- Gwasanaethau Masnachol
- E-ddysgu
- Cysylltiadau Ysgol Rhyngwladol
- Arlwyo a Phrydau Ysgolion
- Gwasanaeth Cerdd
- Storey Arms
- Lleoliadau Derbyn i Ysgolion
- Rhaglen Trefniadaeth Ysgolion (yn ogystal ag Ysgolion yr 21ain Ganrif) sy'n cynnwys:
- Comisiynu
- Cynllunio
- Strategaeth
- Cludiant Ysgol
- Gwasanaeth Ieuenctid sy'n cynnwys:
- Ymyrraeth Gynnar
- Rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. (NEET)
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?
Mae eich data yn cael ei rannu'n fewnol gyda gwahanol Wasanaethau o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes ynghyd â'r Cyfarwyddiaethau canlynol (Gweler Hysbysiadau Preifatrwydd penodol i'r gwasanaethau):
- Adnoddau Corfforaethol
- Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd
- Pobl a Chymunedau
Ynghyd ag Ysgolion Cyngor Dinas Caerdydd sy'n berthnasol i hanes addysgol eich plentyn (Gweler gwefannau yr Ysgolion Caerdydd unigol ar gyfer eu Hysbysiadau Preifatrwydd).
Dyma'r asiantaethau/ sefydliadau rydym yn rhannu eich data gyda nhw yn allanol:
- Alps (Dadansoddiad ar-lein perfformiad myfyrwyr)
- Gyrfa Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIPCAF)
- Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De (CCD/GACCCD)
- Estyn
- Ymddiriedolaeth Teulu Fischer (FFT: Dadansoddi addysg, llythrennedd ac ymchwil)
- Heddlu / Llysoedd (o dan sail gyfreithlon - Gweler Rhannu data personol gydag awdurdodau gorfodi'r gyfraith)
- Awdurdodau Lleol perthnasol sy'n rhan o hanes addysgol eich plentyn (Gweler yr amrywiol Awdurdodau Lleol / Cynghorau o fewn Cymru a Lloegr ar gyfer eu Hysbysiadau Preifatrwydd)
- Ysgolion a sefydliadau addysgol perthnasol nad ydynt yn rhan o Gyngor Dinas Caerdydd ond sy'n ffurfio rhan o hanes addysgol eich plentyn (Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth AHY)
- Llywodraeth Cymru (Casglu data a rheoli gwybodaeth ar gyfer Ysgolion)
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Sut rydym yn storio eich data?
Caiff pa mor hir y mae Cyngor Caerdydd yn cadw gwybodaeth ei bennu drwy ofynion statudol neu arfer gorau. At ddiben y Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes:
- Bydd cofnodion / ffeiliau disgyblion yn cael eu cadw'n ddiogel nes pen-blwydd eich plentyn yn 25
- Bydd Datganiad AAA a gynhelir o dan Ddeddf Addysg 1996 - Adran 324 yn cael ei gadw'n ddiogel nes pen-blwydd eich plentyn yn 30
- Bydd Datganiad AAA arfaethedig neu ddiwygiedig yn cael ei gadw'n ddiogel nes pen-blwydd eich plentyn yn 30
- Bydd dogfennau ADY, gan gynnwys adolygiadau a Chynlluniau Dysgu Unigol yn cael eu cadw'n ddiogel nes pen-blwydd eich plentyn yn 25
- Bydd cyngor a gwybodaeth i rieni ynghylch ADY yn cael eu cadw tan yr adeg gau a 12 mlynedd
- Bydd Ffeiliau ADY Plant yn cael eu cadw tan yr adeg gau a 35 mlynedd
Ar ôl i'r cyfnod yma ddod i ben, bydd y wybodaeth yn cael ei gwaredu'n ddiogel.
Beth yw eich hawliau diogelu data?
Hoffai'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gennych hawl i gael mynediad at eich data a chael copi o'r data personol sydd gan y Cyngor amdanoch a gofyn i'r Awdurdod gywiro eich data personol os oes camgymeriadau neu wybodaeth sy'n hen. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gennych hefyd hawl i ofyn i'r Cyngor gyfyngu ar brosesu eich data personol tan fod unrhyw gamgymeriadau wedi eu cywiro, i wrthwynebu prosesu neu drosglwyddo neu (mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn) ofyn i ni ddileu eich data personol.
Os hoffech chi arfer unrhyw un neu rai o'r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon yn gysylltiedig â phrosesu eich data personol, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data fel y nodir isod.
Nid oes angen i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.
Ein sail gyfreithlon
Mae'r Cyngor yn cadw data personol amdanoch yn rhinwedd ei waith fel rheolwr data. Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data personol yn gyffredinol fydd un neu ragor o'r canlynol:
- mae angen i ni brosesu eich data personol i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Lleol
- mae angen i ni brosesu eich data personol i gwblhau tasg er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol sydd gennym fel corff cyhoeddus
- mae'r prosesu yn angenrheidiol er mwyn diogelu buddiannau hanfodol gwrthrych y data neu person naturiol arall.
- rydych wedi rhoi caniatâd clir i brosesu eich data personol at ddiben penodol.
Gweler Deddf Addysg 1996 a 2002 ar gyfer manylion ynghylch rhesymau cyfreithlon y Cyngor dros ddefnyddio eich gwybodaeth.
Newidiadau i'n polisi preifatrwydd
Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes yn cadw ei bolisi preifatrwydd dan adolygiad rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Tachwedd 2022.
Sut i gwyno
Os oes gennych unrhyw bryderon am ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol, gallwch wneud cwyn i ni yn [email protected].
Gallwch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anhapus â'r ffordd rydym wedi defnyddio eich data.
Cyfeiriad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113
Cysylltu â Diogelu Data
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y polisi preifatrwydd, data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth.
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Gwybodaeth Ychwanegol
I weld rhagor o wybodaeth darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Llawn y Cyngor.
